Ar drywydd eich cyndeidiau yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Casglwyd y straeon personol a adroddir yn yr arddangosfa hon, a’r llyfrau troi gerllaw, o amrywiaeth eang o ffynonellau.

Mae’n haws nag erioed ymchwilio i wasanaeth milwrol aelod o’ch teulu. Gallwch wneud llawer o’ch gwaith ymchwil ar y we, ac weithiau mae enw’n ddigon i ddechrau llenwi’r bylchau yn hanes eich perthynas.

Gall llawer o gofroddion sydd yn nwylo’r teulu roi cliwiau i chi am gyfnod eich cyndeidiau yn y fyddin. Mae toreth o wybodaeth ddefnyddiol i’w chael drwy’r canlynol hefyd:

  • arteffactau fel medalau, bathodynnau cap catrawd neu fotymau lifrai
  • cofroddion megis ‘celf y ffosydd’ – teclynnau agor llythyrau, blwch llwch neu addurniadau lle tân
  • enw wedi’i naddu ar gofeb ryfel neu garreg fedd
  • erthyglau papur newydd lleol, cylchgronau plwyf neu ysgol, cardiau post a llythyrau wedi’u hysgrifennu ar y ffrynt a’u hanfon adref
  • ffotograffau, papurau swyddogol, darluniau a mapiau
  • tystiolaeth lafar, fel straeon teuluol wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, cyfweliadau sain neu fideo.

Mae'r llyfr troi hwn yn darparu nodiadau byr ar rai o'r eitemau hyn. Mae’r llyfr troi wedi ei ysbrydoli gan The Great War Medal Collectors Companion, llyfr gwych ar y pwnc gan Howard Williamsom.