Ymchwiliau diwydiant gwlân Cymru

Oes gennych chi ddiddordeb yn Niwydiant Gwlân Cymru?

Ansicr ble i ddechrau? Gallai Amgueddfa Wlân Cymru eich helpu chi

Dyma rai o’n ymholiadau mwyaf cyffredin -

  • Mae gennych siôl fagu ac rydych chi am wybod sut a ble y cafodd ei gwneud.
  • Rydych chi’n olrhain eich teulu ac am wybod rhagor am felin wlân a fu’n eiddo i’r teulu ’slawer dydd.
  • Rydych chi am ddysgu rhagor am y felin lle rydych chi’n byw.

Cartref Amgueddfa Wlân Cymru yw hen Ffatri Cambrian. Mae ein casgliad yn cynnwys pedwar adeilad rhestredig Gradd II yr hen felin, peiriannau tecstilau hanesyddol, casgliad tecstilau, archif papur a ffotograffau a llyfrgell fechan. Cewch ymweld â’r amgueddfa i weld y brethyn yn cael ei wehyddu ar yr hen beiriannau hanesyddol a sgwrsio â’n crefftwyr. Cewch weld y broses o gynhyrchu brethyn yn y felin fasnachol sy’n dal i weithio ar y safle, Melin Teifi ac yn y felin wlân rhestredig o’r ddeunawfed ganrif, Esgair Moel, a ailgodwyd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae detholiad o’r brethyn a wnaed ym melinau Cymru i’w weld yn yr Oriel Tecstilau. Mae ein casgliad tecstilau’n offeryn defnyddiol iawn i adnabod patrymau blancedi, eu dyddiadau a’r melinau lle cawsant eu cynhyrchu. Nod y cynnig i ddatblygu Cronfa Ddata Ddylunio Genedlaethol yw adeiladu ar hyn, fel y gallwn ni ryddhau ein casgliadau ar-lein.

Y brif ffynhonnell gwybodaeth am ddiwydiant gwlân Cymru yw’r llyfr The Welsh Woollen Industry gan J. Geraint Jenkins (Caerdydd, 1969).

Mae dau adroddiad pwysig ar gael hefyd Report on a survey of the Welsh Textile Industry gan William P. Crankshaw (Caerdydd, 1927) a Rural Industries Bureau Survey of Welsh Mills (heb ei gyhoeddi, 1947).

Nid ar chwarae bach mae dechrau ymchwilio i hanes teuluol ac adeiladau hen felinau! Nid oes cofnodion cynhwysfawr gennym am yr holl felinau gwlân yng Nghymru a’r teuluoedd oedd yn berchen arnynt. Mae gennym ffeiliau ar felinau Dyffryn Teifi isaf ac mae rhywfaint o wybodaeth am rhai o’r melinau mwy yn ein harchif. Rydyn ni’n dal i ymchwilio a chasglu gwybodaeth yn y maes yma.

Amgueddfa Wlân Cymru yw prif amgueddfa Cymru o ran hanes y diwydiant gwlân, ond mae yna gasgliadau sy’n ymdrin â’r diwydiant gwlân yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru hefyd.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ffoniwch y Curadur, Ann Whittall, ar (029) 2057 3084 neu e-bostiwch ann.whittall@amgueddfacymru.

Mae llawer o storfeydd ac adnoddau eraill ar gael i ymchwilio i ddiwydiant gwlân Cymru:

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Caerdydd
CF5 6XB
(029) 2057 3500
www.amgueddfacymru.ac.uk

Casgliad o ffotograffau o felinau yn yr archif ffotograffau; llyfrau cyfrifon rhai o’r melinau yn yr archif; cyngor ar ofalu am decstilau; cyngor ar ymchwilio i adeiladau hanesyddol; cofnodion sain o straeon cyn-berchnogion a gweithwyr y melinau; Esgair Moel, melin wlân o’r ddeunawfed ganrif wedi ei hailgodi ac sy’n dal i weithio; llyfrgell.

Cymdeithas Melinau Cymru
c/o Mrs Hilary Malawas
Y Felin Tynygraig
Ystrad Meurig SY25 6AE
www.rcahmw.org.uk/wms/

Nod y Gymdeithas yw astudio, cofnodi, dehongli a hysbysebu melinau gwynt a dŵr Cymru; hybu diddordeb cyffredinol; cynghori ar faterion cadwraeth a defnydd, a hyrwyddo melinwyr sy’n dal i weithio.

Amgueddfa Decstilau’r Drenewydd
5-7 Commercial Street
Y Drenewydd
Powys SY16 2BL
www.powysmuseums.powys.gov.uk

Lleolir yr Amgueddfa Decstilau mewn siop wehyddu o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o gyfnod pan oedd y Drenewydd yn ganolfan bwysig i wehyddu ar ŵydd llaw. Mae’r amgueddfa’n adrodd stori’r diwydiant gwlân yn y Drenewydd ac yng Nghymru.

Amgueddfa Ceredigion
Y COLISEWM
Ffordd y Môr
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2AQ
(01970) 633084
www.ceredigion.gov.uk

Mae tecstilau brethyn Cymreig yn y casgliad.

Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Abergwili
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 2JG
(01267) 228696
www.sirgar.gov.uk

Mae darnau brethyn Cymreig yn y casgliad.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Plas Crug
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1NJ
Ffôn (01970) 621200
chc.cymru@cbhc.gov.uk
www.cbhc.gov.uk

Cyhoeddwyd nifer fawr o lyfrau sy’n rhoi canllawiau ar olrhain cart achau ac mae niferfawr o wefannau defnyddiol ar y pwnc hefyd. Man cychwyn da a chael ambell i awgrym yw

Archifdy Cenedlaethol Prydain
Kew
Richmond
Surrey TW9 4DU
(0208) 8763444
www.nationalarchives.gov.uk

Y Ganolfan Cofnodion Teuluol
1 Myddelton Street
Llundain
EC1R 1UW
(0208) 392 5300
www.familyrecords.gov.uk

Mae llawer o adnoddau ar-lein defnyddiol ar gael i’ch helpu chi i ymchwilio. Mae gormod o lawer i’w rhestru, ond dyma ambell un:

  • Rhwydwaith Archifau Cymru: www.rhwydwaitharchifaucymru.info
    Mae’r wefan hon yn cynnwys disgrifiadau o’r casgliadau sydd mewn archifdai yng Nghymru, ac yn cynnig cysylltiadau ar gyfer gwybodaeth bellach a manylion archifdai eraill.
  • Cymru ar y We: www.cymruarywe.org
    Catalog ar-lein o gasgliadau ymchwil Cymru.
  • Casglu’r Tlysau: www.gtj.org.uk
    Mae dros 20,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, ffotograffau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai yng Nghymru ar y wefan hon. Mae’n cynnwys nifer fawr o ddelweddau o felinau gwlân a thecstilau hanesyddol Cymru.

Os oes diddordeb gennych chi ddysgu rhagor am decstilau a pheiriannau tecstilau.

Yr Amgueddfa Wyddoniaeth
Exhibition Road
South Kensington
Llundain
SW7 2DD
(0870) 8704868
www.sciencemuseum.org.uk

Mae gan yr Amgueddfa Wyddoniaeth gasgliad helaeth sy’n cwmpasu holl hanes gwyddorau, technoleg a meddyginiaeth y gorllewin - mae’r casgliad yn cynnwys peiriannau tecstilau.

Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant Manceinion
Liverpool Road
Castlefield
Manceinion
M3 4FP
(0161) 6060127
www.msim.org.uk

Mae’r Oriel Tecstilau’n lle difyr os oes hoffech chi ddysgu rhagor am beiriannau tecstilau a’r diwydiant tecstilau ym Mhrydain.

Amgueddfa Victoria ac Albert
Cromwell Road
South Kensington
Llundain
SW7 2RL
(0207) 9422000
www.vam.ac.uk

Mae gwefan Amgueddfa Victoria ac Albert yn ei disgrifio fel amgueddfa gelf a chrefft orau’r byd. Mae gan yr amgueddfa gasgliad tecstilau sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg hyd heddiw, gan gynnwys dyluniadau a ffasiynau Prydeinig cyfoes.

Archifdai Lleol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

Archifdy Ynys Môn
Neuadd y Sir
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
(01248) 752080
www.ynysmon.gov.uk

Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin
Parc Myrddin
Waun Dew
Caerfyrddin
SA31 3DS
(01267) 228232
www.sirgar.gov.uk

Archifdy Ceredigion
Neuadd y Sir
Glan-y-Môr
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2HE
(01970) 633697
www.archifdy-ceredigion.gov.uk

Gwasanaeth Archif
Lloyd Street
Llandudno
Conwy
LL30 2YG
(01492) 860882
www.conwy.gov.uk/archives

Archifdy Sir y Fflint
Yr Hen Reithordy
Penarlâg
Glannau Dyfrdwy
Clwyd LL15 1HP
(01224) 532364
www.siryfflint.gov.uk

Archifdy Morgannwg
Adeilad Morgannwg
King Edward VII Avenue
Parc Cathays
Caerdydd CF1 3NE
(029) 2078 0282
www.glamro.gov.uk

Gwent Archives [Formerly Gwent Record Office]
Steelworks Road
EBBW VALE
Blaenau Gwent NP23 6DN
01495 353363
gwentarchives.gov.uk

Archifdy Gwynedd
Swyddfeydd y Sir
Caernarfon
Gwynedd LL55 1SA
(01286) 679095
www.gwynedd.gov.uk/archifau

Archifdy Gwynedd
Cae Penarlâg
Dolgellau
Gwynedd LL40 2YF
(01341) 424443
www.gwynedd.gov.uk/archifau

Swyddfa Gofnodion Sir Benfro
Y Castell
Hwlffordd
Sir Benfro
(01437) 763707
record.office@pembrokeshire.gov.uk

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
Neuadd y Sir
Heol Ystumllwynarth
Abertawe SA1 3SN
(01792) 636589
 www.abertawe.gov.uk/archifau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BU
(01970) 632800
www.llgc.org.uk

Mae’r melinau gwlân sy’n dal i gynhyrchu yng Nghymru’n cynnwys:

Melin Wlân Bryncir
Golan
Garndolbenmaen
ger Porthmadog
Gwynedd LL51 9YU
(01766) 530236

Melin Wlân Cambrian
Llanwrtyd
Powys
LD5 4SD
(01591) 610473
www.cambrian-mill.co.uk

Curlew Weavers
Yr Hen Reithordy
Llandysul
Ceredigion SA44 5RL
(01239) 851357
www.westwales.co.uk/curlew.htm

Melin Wlân Elfed
Cynwyl Elfed
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA33 6TS
(01267) 281336
www.elvetwoollenmill.co.uk

Melin Dolwerdd
Cwmpengraig
Dre-fach Felindre
ger Castellnewydd Emlyn
Sir Gâr
SA44 5UJ
(01559) 370874

Esgair Moel
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Sain Ffagan
Caerdydd
CF5 6XB
(029) 2057 3500
www.amgueddfacymru.ac.uk

Rock Mill
Capel Dewi
Llandysul
Ceredigion
SA44 4PH
(01559) 362356

Y Felin Wlân
Solfach
Hwlffordd
Sir Benfro SA62 6XD
(01437) 721112
www.solvawoollenmill.co.uk

Melin Teifi
d/o Amgueddfa Wlân Cymru
Dre-fach Felindre
ger Castellnewydd Emlyn
Llandysul Sir Gâr SA44 5UP
(01559) 371003

Melin Wlân Trefriw
Trefriw
Dyffryn Conwy
LL27 0NQ
(01492) 640462
www.t-w-m.co.uk

Melin Tregwynt
Castell Morris
Hwlffordd
Sir Benfro
SA62 5UX
(01348) 891225
www.melintregwynt.co.uk

Gwehyddion Sioni Rhys
Yr Hen Efail
Pandy
ger y Fenni
Gwent NP7 8DS
(01873) 890441
www.sioni-rhys-handweavers.com

Riitta Sinkkonen Davies Handweaving
Mathom House
Moorland Road
Freystop
Hwlffordd
Sir Benfro SA62 4LE
(01437) 890712
www.rasdavies.co.uk

Snail Trail Handweavers
Ffermdy Penwenallt
Cilgerran
ger Aberteifi
Sir Benfro
SA43 2TP
(01239) 841228
www.snail-trail.co.uk

Melin Tre-fin
33 Ffordd y Felin
Tre-fin
Hwlffordd
Sir Benfro
SA62 5AX
(01348) 837235
melintrefin@yahoo.co.uk