Petroleg
Petroleg yw gwyddor astudio creigiau; eu mwynoleg, eu gwead, eu strwythur a'u gwreiddiau.
Mae Casgliad Petroleg Amgueddfa Cymru (35,000 o sbesimenau gan gynnwys 10,000 trychiad tenau) yn adnodd unigryw ar gyfer ymholiadau, cyfeirio ac ymchwil.
Ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar gasglu cerrig adeiladu ac addurno Cymreig, creigiau igneaidd a metamorffig Cymreig a meteorynnau.
Casgliadau
Yn ogystal â bod yn gyfeirfa ar gyfer deunydd o leoliadau yn y DU a gweddill y byd, ymhlith cryfderau'r casgliad mae:
- Casgliad cyfeiriol Petroleg Cymru
- Deunydd ymchwil o Gymru, y DU a'r Byd (traethodau PhD a chyhoeddiadau)
- Casgliad Glo Cymru – a gasglwyd yn ystod yr 20fed ganrif o lofeydd gweithiol
- Casgliad Llechi Cymru
- Casgliad cyfeiriol Cerrig Adeiladu ac Addurniadol Cymru
- Y casgliad meteorynnau
- Y casgliad petroleg archaeolegol – sbesimenau o arteffactau ac adeiladau
- Casgliad creiddiau tyrchu bas o dde Cymru, gyda chofnodion a mapiau cysylltiol
Ymchwil
Daeareg Neoproterozoic-Cambriaidd gogledd-orllewin Cymru (Môn a Llŷn) yn canolbwyntio ar darddiad gwaddodion Uwchgrwpiau Monaidd. (Dr J. M. Horak)
Gweithgarwch igneaidd y cyfnod Paleosoig Is yng Nghymru (Dr R.E. Bevins)
Gweithgarwch igneaidd y cyfnod Paleogenaidd yng Nghymru a'r cyffiniau (Dr R.E. Bevins a J.M. Horak)
Mae'r casgliad petroleg archaeolegol wedi cefnogi nifer o brojectau ymchwil gan gynnwys:
- Defnydd cerrig yng Nghymru'r Oesoedd Canol, gan gynnwys corpws ar gerrig wedi'u harysgrifio a cherfluniau cerrig yng Nghymru (Dr J.M Horak)
- Olrhain doleritau gleision brith a rhyolitau Cymreig yng Nghôr y Cewri (Dr R.E. Bevins)
Ymchwil parhaus i gerrig adeiladu ac addurniadol Cymru.
- Tywodfeini carbonifferaidd gogledd ddwyrain Cymru a'u defnydd adeiladu (e.e. Cefn, Tywodfaen Gwespyr)
- 'Marblis' addurniadol carbonifferaidd Cymru (e.e. Helygain, Snowdrop Marbles)