Cwestiynau cyffredinol Amgueddfa dros nos: Deinos

Mae'r digwyddiad hwn yn addas i blant 6-12 oed. Mae'r digwyddiad a'r gweithgareddau wedi'u cynllunio ar gyfer plant 6 i 12 oed, ac felly gofynnwn i gwsmeriaid gadw at y canllaw oed. Ni fydd plant sy'n iau neu'n hŷn na'r canllaw oed yn cael mynediad.

Mae digwyddiad Amgueddfa Dros Nos arferol yn edrych fel hyn:

17:30 – Drysau'n agor a chofrestru

18:15 – Cau'r drysau, dim mynediad wedi hyn

18:15 – Rhannu'r gwesteion yn grwpiau. Briff iechyd a diogelwch.

18:30-23.00 – Gweithgareddau a Byrbrydau

21:30 – Ffilm yn ein theatr fawreddog, y Reardon Smith.

23.20 – Paratoi i gysgu

00:00 – Amser gwely

7:00 – Deffro a phacio

7:20-9:00 – Brecwast, sesiynau ymarfer corff i'r teulu, yr orielau’n agor.

9:15 – Diwedd y digwyddiad. Casglu'ch pethau.

10:00 – Yr Amgueddfa'n agor i'r cyhoedd.

Mae’r Amgueddfa’n cadw’r hawl i addasu'r amserlen a'i chynnwys os oes angen gwneud hynny er mwyn sicrhau digwyddiad diogel a hwyliog.

Mae tocynnau VIP yn cynnwys holl weithgareddau'r Nosweithiau Dino yn ogystal â:

Gwely aer mewn man gwersylla arbennig, tawel yn ein Oriel Hanes Natur, ger yr heulgi ac anifeiliaid y goedwig.

Mynediad i'ch ardal wersylla cyn gynted ag y byddwch chi'n cyrraedd. Setlwch i mewn yn gynnar a gwneud eich hun yn gartrefol – bydd Lle'r Llysysyddion yn barod amdanoch.

Sesiwn stori amser gwely o dan y sêr yn ein hystafell Y Glec Fawr.

Dewch wyneb yn wyneb â deinosor bach. Ymweliad arbennig gan y Ceidwad Chris ac un o'i ymlusgiaid anhygoel.

Tu ôl i’r llenni – ymweliad â storfeydd yr Amgueddfa i weld ein pryfaid a chreaduriaid bach!

Dewch â'ch sach gysgu a'ch gobennydd eich hun. Darperir gwely aer, ond mae croeso i chi ddod â'ch un chi. Rhowch wybod i ni ymlaen llaw os byddwch yn gwneud hyn.

*Cynhelir teithiau tu ôl i'r llenni am 09:00 a 09:30 fore Sul. Byddwch yn derbyn slot amser ac ni ellir ei newid.

Rhaid i bob plentyn a rhiant ddod â sach gysgu, gobennydd, past dannedd a brwsh dannedd.

Rydym yn argymell eich bod yn gwisgo esgidiau addas a dillad i gysgu ynddynt. Bydd unrhyw fagiau llaw yn cael eu storio mewn ystafell gyfagos. Nid yw’r Amgueddfa’n ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb dros eitemau personol. Rhaid i ddillad cysgu fod yn addas i'w gwisgo tu allan, rhag ofn y bydd angen gwagio'r adeilad (er bod hyn yn annhebygol).

Rhaid gwisgo esgidiau addas bob amser yn yr Amgueddfa, heblaw pan fyddwch yn cysgu.

Byddwn yn darparu matiau cysgu tenau, ond mae croeso i chi ddod ag un eich hun. Caniateir matiau aer neu fatresi sydd ddim yn fwy na: Uchder 22, Hyd 185, Lled 76cm. Ni chaniateir unrhyw welyau aer mwy, am na fydd digon o le.

Fel amgueddfa, rydym yn gweithio'n galed i wella ein cynaliadwyedd. Felly, dewch â'ch potel ddŵr eich hun. Ni fyddwn yn darparu poteli o ddŵr. Bydd ffynhonnau dŵr ar gael i chi ail-lenwi'ch poteli.

⁠Bydd rhywfaint o oleuadau diogelwch ymlaen dros nos. Rydym yn argymell eich bod yn dod â masgiau llygad i'ch helpu i gysgu.

Peidiwch â dod ag eitemau sydd â gwerth ariannol neu sentimental. Nid yw’r Amgueddfa’n ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb dros eitemau ymwelwyr gaiff eu difrodi neu eu colli.

⁠Ni fyddwn yn caniatáu i fynychwyr roi plygiau trydan yn socedi'r Amgueddfa yn ystod y digwyddiad, am resymau iechyd a diogelwch. Cysylltwch â ni os oes angen mynediad at bŵer neu oergell arnoch am resymau meddygol.

Rydym yn argymell i chi fwyta pryd o fwyd cyn cyrraedd.

Byddwn yn darparu byrbrydau a siocled poeth i bawb rhwng 19:00 a 20:30 (bydd ymwelwyr yn cael eu rhannu'n dimau ar gyfer gweithgareddau, a bydd timau'n derbyn eu blychau bwyd ar wahanol adegau).

Mae croeso i chi ddod â bwyd ychwanegol i'w fwyta'n hwyrach yn y nos. Peidiwch â dod â chyfarpar coginio.

Gall ein byrbrydau gynnwys:

Ci poeth neu gi llysieuol

Creision

Ffrwyth

Siocled

Yn y bore, bydd y brecwast yn cynnwys:

Dewis o rawnfwyd

Detholiad o doesenni

Salad ffrwythau

Sudd ffrwythau

Te a choffi ffres

*Nodwch ofynion deietegol wrth archebu.

Nid yw'r digwyddiad yn amgylchedd di-gnau. Os oes gan unrhyw aelod o'ch grŵp alergedd yr ydych yn poeni yn ei gylch, cysylltwch â ni dros e-bost i gadarnhau hyn: digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk.

Os na fydd un o'ch grŵp yn gallu bwyta'r byrbrydau neu'r brecwast, rhowch wybod i ni wrth archebu a dewch â'ch bwyd a diod eich hunain. Sylwch ni fyddwn yn caniatáu defnyddio'r oergell na'r meicrodon/popty ar gyfer eitemau bwyd.

Dyma'r nifer o oedolion fydd eu hangen ar gyfer gwahanol niferoedd:

2 blentyn | 1 oedolyn

2-4 plentyn | 2 oedolyn

5-12 plentyn | 3 oedolyn

13-20 plentyn | 4 oedolyn

21-28 plentyn | 5 oedolyn

29-36 plentyn | 6 oedolyn

Bydd oedolion yn cysgu yn yr un ardal â'r plant. Rhaid i oedolion fod o leiaf 18 oed a dangos tystiolaeth o hyn wrth gofrestru.

Defnyddiwch brif fynedfa'r Amgueddfa ar Heol Gerddi'r Orsedd. Bydd y drysau'n agor am 17.30 ac yn cau am 18.15. Ni fydd mynediad ar ôl 18:15.

Ewch i'n tudalen ymweld am fwy o fanylion ar sut i'n cyrraedd.

Mae maes parcio yng nghefn yr Amgueddfa, oddi ar Rodfa'r Amgueddfa. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd, felly'r cyntaf i'r felin gaiff barcio. Nid yw cost parcio yn rhan o bris y tocyn.

Os ydych yn credu y byddwch yn hwyr e-bostiwch ni

Allwn ni ddim cynnig ad-daliad na gostyngiad os ydych yn hwyr.

Mae'r holl ardaloedd a ddefnyddir yn y digwyddiad hwn yn hygyrch, ond oherwydd natur hanesyddol yr adeilad efallai y bydd angen defnyddio llwybrau eraill i gefnogi anghenion arbennig. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni cyn archebu, er mwyn cadarnhau y gallwn gwrdd â'ch anghenion.

Ardal dawel: Mae gennym ni ardal dawel i deuluoedd sydd angen lle heddychlon i ffwrdd o sŵn a bwrlwm y digwyddiad. Bydd aelod staff wrth law i'ch hebrwng chi yno ar unrhyw adeg os oes angen.

Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes angen dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) arnoch yn ystod y digwyddiad hwn. Gallwn drefnu cyfieithydd ar gael trwy gydol y noson os oes angen, gan gynnwys dros nos.

Bydd gwesteion yn cysgu ym Mhrif Neuadd yr Amgueddfa. Gallwch chi ddewis man cysgu wrth archebu eich tocynnau. Os oes angen cymorth arbennig arnoch yn ymwneud â lle fyddwch chi'n cysgu, rhowch wybod i ni wrth archebu.

Bydd gwesteion VIP yn cysgu yn Oriel Hanes Natur (Lle'r Llysysyddion VIP) neu Oriel Esblygiad Cymru (Cornel y Cigysyddion).

Bydd staff y digwyddiad a staff diogelwch wrth law drwy'r nos i sicrhau fod pawb yn ddiogel a chyffyrddus. Mae camerâu cylch cyfyng⁠ yn weithredol drwy'r Amgueddfa.

Mae toiledau ar gael ar gyfer ymolchi, glanhau dannedd a newid ond nid oes cawodydd ar gael.

Mae alcohol wedi'i wahardd yn llwyr yn y digwyddiad hwn. Os ydym yn credu fod unrhyw un yn yfed alcohol yn ystod y digwyddiad byddwn yn gofyn iddynt adael y digwyddiad ar

unwaith. Mae gan ein staff hawl i chwilio bagiau a phrofi hylifau ar unrhyw bwynt yn ystod y digwyddiad. Mae ysmygu ar y safle hefyd wedi'i wahardd yn ystod y digwyddiad (gan gynnwys dyfeisiau electronig) ac ni allwn ganiatáu i ymwelwyr fynd i mewn ac allan o'r adeilad yn ystod y noson.

Bydd staff Amgueddfa sydd â hyfforddiant cymorth cyntaf wrth law i helpu.

Caiff drysau'r Amgueddfa eu cau wedi i'r digwyddiad gychwyn ac ni fydd modd gadael oni bai bod argyfwng. Nid ydym yn argymell gadael yn gynnar, ond os fydd angen i chi adael yn ystod y digwyddiad gadewch i ni wybod ymlaen llaw. Os oes angen i chi adael y digwyddiad ar unrhyw adeg oherwydd argyfwng, siaradwch ag aelod o staff.

Os oes gennych chi fwy o gwestiynau ynghylch y digwyddiad neu eisiau dweud mwy wrthym am anghenion arbennig ymlaen llaw, cysylltwch ag aelod o'r tîm digwyddiadau ar: digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk.