Delweddau Diwydiant
Masnachwr Arfordirol JOHN BROGDEN ger North Shields
SCOTT, John (1802 - 1882)
Dyddiad: 1866
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 610 x 919 mm
Derbyniwyd: 2001; Prynwyd
Rhif Derbynoli: 2001.22
Cafodd y llong ager haearn JOHN BROGDEN ei hadeiladu gan Charles Mitchell yn Newcastle ar gyfer Alex Brogden & Co., Abertawe ym 1866. Wedi’i chofrestru’n 719 o dunelli gros (547 net), roedd hi’n mesur 199½ troedfedd o hyd gyda thrawst 27½ troedfedd, ac yn cael ei gyrru gan injan wrthdro gyfansawdd 2-silindr 95hp gan J. & W. Dudgeon o Lundain.
Gwerthwyd ym 1874 i J. Brogden and Son, Abertawe, ac ym 1879 i J. J. Wallace, Abertawe.
Er bod cofrestr Lloyd yn nodi mai Abertawe oedd ei phorthladd cartref, y bwriad gwreiddiol oedd ei defnyddio i fasnachu ar hyd yr arfordir o Newcastle – cyn newid ei chyrchfan i Fôr y Canoldir o borthladd Llundain.
Peintiodd John Scott y llun hwn ohoni oddi ar arfordir Newcastle ym 1866, ar ei mordaith gyntaf mwy na thebyg. Gan nad oes paentiadau eraill o’i eiddo yn cynnwys dyddiad diweddarach, gallwn gymryd mai dyma un o bortreadau ola’r artist o longau.