Delweddau Diwydiant
Yr S.S. EMBIRICOS Ger Dover
MOHRMANN, John Henry (1857 - 1916)
Dyddiad: 1896
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 790 x 1180 mm
Derbyniwyd: 1994; Rhodd
Rhif Derbynoli: 1994.143/2
Cwblhawyd yr Embiricos ym 1893 gan Syr Raylton Dixon o Middlesborough ar gyfer Alcibiades Embiricos, Andros, Gwlad Groeg. Ym 1896, daeth aelod arall o’r teulu, Stamatios, i Gaerdydd, a byddai’n aml yn ‘trefnu’ i’r Embiricos lwytho cargo yn y porthladd glo ffyniannus hwn. Culfor Dover yw cefndir y llun hwn, fodd bynnag, ac mae’n debygol fod y llong ar ei ffordd i Dunkirk gyda llwyth o rawn o un o borthladdoedd y Môr Du.
sylw - (1)