Delweddau Diwydiant
Y SEIONT II, Stemar Garthu
WILLIAMS, Ieuan
Dyddiad: 1979
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 343 x 470 mm
Derbyniwyd: 1979; Prynwyd
Rhif Derbynoli: 79.94I
Cwblhawyd y llong hon ym 1937 gan W. J. Yarwood & Co., Northwich, i Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon. Am dros ddeugain mlynedd, cafodd ei defnyddio fel llong garthu a llong bwiau yn Afon Menai, ac roedd pobl Caernarfon yn cyfeirio ati fel 'y cwch mwd'. Fe’i defnyddiwyd tan y 1970au, cyn i Amgueddfa Genedlaethol Cymru ei phrynu a’i rhoi yng ngofal Ymddiriedolaeth Forwrol Seiont II yng Nghaernarfon. Rhwng 1984 a 1986, cafodd ei hatgyweirio’n llwyr yn iard Cammel Laird, Penbedw.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.