Delweddau Diwydiant

Agerlong anhysbys wedi'i phaentio ar ddalen

artist unknown

Dyddiad: unknown

Cyfrwng: cyfryngau cymysg

Maint: 125 x 190 mm

Derbyniwyd: 1982; Rhodd

Rhif Derbynoli: 82.119I/6

Mae’r portread anghyffredin hwn o long ar ddeilen yn unigryw ymhlith casgliad yr Amgueddfa. Cafodd ei ddarganfod yng nghanol dalennau Beibl ym 1982. Mae lliwiau cwmni Morel Ltd. o Gaerdydd ar y stemar sydd arni. Mae’n debyg mai’r diweddar Gapten Samuel Jenkins o Aberporth, a beintiodd y llun. Gwasanaethodd ar long SS Cardiff, cwmni Morel, am bymtheg mis pan ddechreuodd hwylio’r moroedd mawr ym 1909. Bu ar dair mordaith wahanol gyda’r llong arbennig yma – i Asia, Gogledd a De America – felly gallai’r ddeilen fod wedi dod o unrhyw un o’r llefydd hynny.

 

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
John Joell
29 Medi 2016, 19:37
I have 3 leaves in a frame with Lioness off the coast of South Africa. Dated 1885. A card under each leaf has inscription gives date and description of the ship. Painting before, during and after storm.
John Ellis (tyke.taff@btinternet.com)
20 Ebrill 2012, 16:02
My uncle Jack Ellis was a O.S. and sialed with my grandfather John Hayden Ellis who was a bosun on the s.s. Earlspark. He sent a similar leaf with a portrait of the 'Earlspark, arriving at Cape Town, South Africa 1936'. It's attached to a postcard of Adderley Street, Cape Town and has a second leaf that says "A Souvenir to Dear Mother".
I understood that it was painted as a souvenir by a local artist, and the leaf was of a local tree.

John
Nôl i hafan Delweddau Diwydiant

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall