Delweddau Diwydiant
S.S. LLANGORSE
artist unknown
(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)
Dyddiad: circa 1900
Cyfrwng: gouache ar bapur
Maint: 550 x 793 mm
Derbyniwyd: 1986; Prynwyd
Rhif Derbynoli: 86.173I
Llong stemar â dec grisiog oedd hi, a adeiladwyd gan Ropner & Sons oStockton-on-Teesym 1904 ar gyfer Evan Thomas, Radcliffe & Co., Caerdydd. Ei henw gwreiddiol oedd Clarissa Radcliffe, ar ôl un o ferched Henry Radcliffe; a chafodd ei hailenwi ym 1917. Fe’i gwerthwyd i berchnogion newydd yn Llundain ym 1924, yna i ddwylo Groegaidd a pherchnogion o Banama, cyn ei throi’n sgrap gan gwmni Wards, Aberdaugleddau ym 1952.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.