Delweddau Diwydiant

Yr ADMIRAL SCHEER - Llynges osgordd HX84 yn dioddef ymosodiad

KING, Kenneth

Yr ADMIRAL SCHEER - Llynges osgordd HX84 yn dioddef ymosodiad

Dyddiad: 1980

Cyfrwng: olew ar fwrdd

Maint: 572 x 737 mm

Derbyniwyd: 1986; Rhodd

Rhif Derbynoli: 86.23I/70

Mae'r llun yma yn cofnodi un o ddigwyddiadau enwog y rhyfel ar y môr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Ar 5 Tachwedd 1940, ymosodwyd ar gonfoi HX84 gan y llong ryfel Almaenig Admiral Scheer.  Ym amddiffyn y confoi oedd H.M.S. Jervis Bay a ymosododd yn ddewr ony yn ofer ar yr Admiral Scheer.  Saethwyd y Jervis Bay yn ddeilchion, a gwelir y fflamau yn codi ohoni ar ben y llun. Y llong yn y canol yw'r Cornish City o eiddo cwmni Reardon Smith, caerdydd, tra yn y cefndir gwelir y tancyr San Demetrio yn cael ei tharo. Wedi gadael y San Demetrio, fe aeth yr criw yn ôl  ar fwrdd y tancyr yn hwyrach, gan lwyddo i ddod â'r llong a'i chargo gwerthfawr o betrol yn ôl i Brydain.  Rhoddwyd V.C. ôl-argraffedig i Capten Fogarty fegan, meistr y Jervis Bay. Paentiwyd y llun i gwmni Reardon Smith, Caerdydd.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Delweddau Diwydiant

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall