Delweddau Diwydiant
P.S. CHRISTOPHER THOMAS
WESSEN, Edgar
Dyddiad: 1867
Cyfrwng: dyfrlliw ar bapur
Maint: 205 x 302 mm
Derbyniwyd: 1989; Prynwyd
Rhif Derbynoli: 89.107I
Cafodd y Christopher Thomas ei hadeiladu gan Henderson, Coulborn & Co., Renfrew, ym 1864 ar gyfer cwmni rheilffordd Bristol and South Wales Union. Cafodd ei henwi ar ôl gweithgynhyrchwr sebon amlwg o Fryste, cadeirydd y cwmni. Roedd gan gwmni’r ‘Union’, fel y’i gelwir, reilffordd o Bristol Temple Meads i New Passage, lle’r oedd fferi yn hwylio ar draw Môr Hafren i Borth Sgiwed; roedd cangen fechan o’r rheilffordd hefyd yn ymestyn o Borth Sgiwed i’r gyffordd â’r brif lein rhwng Caerloyw a de Cymru. Roedd y Christopher Thomas yn un o dair fferi rhodlo a oedd yn darparu gwasanaeth cyswllt rhwng dau ddarn o’r rheilffordd, a darparodd wasanaeth heb ei ail am ugain mlynedd a mwy tan 1888 pan agorodd Twnnel Hafren. Daeth i ddiwedd ei hoes ar afon yng Ngorllewin Affrica ym 1902.