Delweddau Diwydiant
Yr S.S. ST. DAVID - Llong fferi'r G.W.R.
artist unknown
Dyddiad: 1910s
Cyfrwng: dyfrlliw ar bapur
Maint: 202 x 307 mm
Derbyniwyd: 1990; Prynwyd
Rhif Derbynoli: 90.75I/1
Cafodd yr S.S. ST DAVID, llong ager â thri thyrbin ei hadeiladu ym 1906 gan John Brown & Co. Ltd., Clydesbank ar gyfer cwmni rheilffordd Great Western. Roedd yn un o bedair llong a adeiladwyd rhwng 1906 a 1908 ar gyfer gwasanaeth newydd GWR o Abergwaun i Rosslare. Cafodd y pedair eu defnyddio fel llongau ysbyty yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gludo milwyr clwyfedig yn ôl o Ffrainc. Adeiladwyd llong arall yn lle’r St David ym 1932, a chafodd ei hailenwi yn Rosslare. Ni pharodd yn hir iawn wedyn, a chafodd ei datgymalu maes o law yng Nghasnewydd ym 1933.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.