Delweddau Diwydiant
Darn o bostyn pwll
Dyddiad: 1913
Cyfrwng: pren
Maint: 145 x 95 x 95 mm
Derbyniwyd: 1992; Rhodd
Rhif Derbynoli: 92.1I/3
Darn o bostyn pwll wedi llosgi o ffrwydrad 1913 yng Nglofa Universal, Senghennydd.
"ac roedd yr holl bren, cyn belled ag y gallwn weld o'r fan honno ar dân….”
Dyfyniad o eiriau Mr Shaw, rheolwr y pwll glo yn Adroddiad y Swyddfa Gartref.
Yn dilyn y trychineb, cafwyd hyd i’r darn hwn o gynhalbost pren i’r to wedi’i losgi yn ymyl corff Samuel Booth o 43 Edward Terrace, Abertridwr. Mae’n debyg bod tad Samuel hefyd yn gweithio yn Senghennydd y diwrnod hwnnw ond iddo oroesi.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.