Digwyddiad:Johnny Lewis a’i Gyfeillion: Straeon o Ffatri Cambrian

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni am ddiwrnod arbennig o straeon, hanes a darganfod wedi’i ysbrydoli gan Johnny Lewis, cyn-berchennog Ffatri Cambrian (1920au-1950au).

Mwynhewch deithiau dan arweiniad cymeriad yn Gymraeg a Saesneg wrth i Johnny Lewis rannu straeon am fywyd yn y felin a’r diwydiant gwlân lleol. Bydd ymwelwyr hefyd yn cael y cyfle i weld Triumph Mayflower, y math o gar yr oedd Johnny Lewis yn ei yrru, a darganfod mwy am y bobl, y lleoedd a’r traddodiadau sy’n gysylltiedig â hanes yr Amgueddfa.

Dewch i gwrdd â Nansi, cymeriad wedi’i hysbrydoli gan bobl a theuluoedd y gymuned wlân leol, a darganfod ochr arall i fywyd drwy straeon a gweithgareddau i bob oed.

Amserlen

10.30yb – Taith gymeriad Johnny Lewis yn Gymraeg

11.45yb – Cwrdd â Nansi a chlywed straeon sydd wedi’u hysbrydoli gan fywydau gweithwyr y melinau lleol a’u teuluoedd

1yp – Taith gymeriad Johnny Lewis yn Saesneg

2yp – Sgwrs: Raymond Jones a Johnny Lewis. Bydd Raymond Jones, a fu’n gweithio ym Melin Cambrian ac yn ddiweddarach yn berchen ar Felin Teifi, oedd ar safle’r Amgueddfa, yn ymuno â Johnny Lewis i rannu atgofion a thrafod bywyd a gwaith yn y felin ac y diwydiant gwlân Cymreig

2.30yp – Cwrdd â Nansi

Drwy gydol y digwyddiad, bydd car Triumph Mayflower vintage, y math o gar roedd Johnny Lewis yn ei yrru, yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa. Bydd gweithgareddau crefft teuluol ar gael yn ystod y dydd hefyd.

Gwybodaeth

15 Awst 2026, 10.30yb-3yp (Gwiriwch y Dudalen Digwyddiadau am fanylion yr amserlen)
Pris Am Ddim
Addasrwydd Addas i bawb
Archebu lle Galw heibio
Johnny Lewis
JLAwst

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau