Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ein darlithfa hardd Reardon Smith, a enwyd ar ôl cyn-drysorydd yr Amgueddfa a'r llywydd Syr William Reardon Smith a oruchwyliodd y gwaith o gwblhau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yw un o drysorau cudd y ddinas.
Yn ffefryn gyda siaradwyr cenedlaethol a rhyngwladol, mae’r gofod yn cynnwys taflunydd pwrpasol, sgrin wal a system PA, ac mae lle ar gyfer hyd at 300 o gynrychiolwyr. Mae’n ddelfrydol ar gyfer darlithoedd, cynadleddau, perfformiadau a seremonïau agos-atoch. Mae ganddi ddwy fynedfa arddull cyntedd, ystafell werdd unigryw, llwyfannu a dodrefn gwreiddiol. O ran hygyrchedd, me lle i hyd at 7 defnyddiwr cadair olwyn ac mae gan y theatr doiled hygyrch ar yr un lefel.
Siaradwch â'n tîm arbenigol i drafod opsiynau ar gyfer offer a chymorth technegol.
Mae'r gofod yn cyd-fynd yn wych â'n Hystafelloedd Cyfarfod ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau ar raddfa fwy.
Ymhlith y cleientiaid sydd wedi cynnal digwyddiadau yma yn y gorffennol mae Legal & General, Darwin Gray Solicitors a Choleg Chweched Dosbarth Caerdydd.
Mae prisiau llogi lleoliad unigryw yn dechrau o £1,200 + TAW ac yn dibynnu ar hyd y cyfnod llogi. Cysylltwch â'n tîm digwyddiadau i gael dyfynbris ar gyfer anghenion eich digwyddiad.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.
Cysylltwch â ni