Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
P'un ai'ch bod chi'n bwriadu cynnal noson wobrwyo, digwyddiad lansio neu achlysur untro, mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnig lleoliad unigryw yng nghalon y brifddinas.
Go brin y cewch chi le mwy mawreddog na'n Neuadd Fawr eiconig. Mae modd addasu'r lleoliad ar gyfer hyd at 400 o bobl ar eu traed, neu rhwng 280 a 300 mewn amrywiol drefniadau eistedd, gyda grisiau marmor godidog a nenfwd dan gromen osgeiddig. Mae'r neuadd yn gwbl addas i osod llwyfan ac ar gyfer cyflwyniadau. Mae'n gwbl hygyrch diolch i ramp drwy’r prif ddrysau a lifftiau i bob lefel, gan gynnwys y tai bach.
Mae ein horielau trawiadol, sy'n gartref i un o'r casgliadau gorau o gelf argraffiadol yn Ewrop, yn gefndir heb ei ail hefyd ar gyfer achlysuron a seremonïau mwy agos atoch neu ar gyfer derbyniad diodydd wrth gyrraedd.
Mae darlithfa hyfryd Reardon Smith, sy’n adeilad rhestredig Gradd I unigryw, yn opsiwn perffaith arall i gynnal seremoni wobrwyo. Ac wedyn, beth am dderbyniad ar ôl y seremoni yn ein Neuadd Fawr neu Orielau.
Siaradwch â'n tîm ynghylch creu noson gwbl unigryw i chi, boed yn oleuadau lliw brand, cymorth technegol neu addurno'r ystafell mewn modd arbennig, a holwch fwy am ddewisiadau arlwyo.
Ar gyfer adloniant ysblennydd gallwn gynnal perfformiadau gan ddawnswyr, corau, artistiaid clasurol, bandiau a mwy. Siaradwch â'n tîm arbenigol am argymhellion.
O ran llety mae gan Gaerdydd ddigon o westai i ddewis o’u plith ar gyfer eich gwesteion, ond mae gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gynnig arbennig gyda Gwesty Clayton sy’n rhoi gostyngiad o 15% ar gyfraddau llety i gynrychiolwyr wrth archebu gan ddefnyddio ein dolen cleientiaid y gallwn ei rhannu unwaith y bydd eich digwyddiad wedi’i gadarnhau gyda ni.
Lleoliad unigryw – mae prisiau llogi’n dechrau o £2,800 + TAW yn dibynnu ar le. Mae pecynnau arlwyo’n cael eu gwerthu ar wahân.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.
Cysylltwch â ni