Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ein Neuadd Fawr eiconig yw calon Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Gyda’i phileri marmor hardd, ei phensaernïaeth glasurol a’i nenfwd cromennog ysblennydd, go brin y cewch chi le mwy mawreddog i gynnal digwyddiad yn y brifddinas.
Mae’r ardal ganolog yn llawn bwrlwm pan fydd yr amgueddfa ar agor, ac mae’n trawsnewid yn ofod mawr ac addasadwy ar gyfer digwyddiadau ar ôl i'r cyhoedd fynd adref.
Mae’n ddelfrydol i gynnal cinio gala, seremonïau gwobrwyo, derbyniadau mawr, ac me lle ar gyfer llawr dawnsio. Mae llwyfannau, arddangoswyr cynadledda a hyd yn oed disgos tawel i’w gweld yma'n rheolaidd.
Mae'r Neuadd Fawr yn cyd-fynd yn ardderchog â llogi ein Horielau Argraffiadol a Modern.
Mae nifer y lleoedd yn amrywio o 270 ar gyfer cinio rownd bwrdd, 300 ar gyfer cynllun theatr neu 400 yn sefyll. Mae ein lleoliad yn gwbl hygyrch diolch i ramp y prif ddrysau a lifftiau i bob lefel, gan gynnwys y tai bach.
Siaradwch â ni am unrhyw ofynion pwrpasol, boed yn oleuadau yr un lliw â'ch brand, offer clyweledol, systemau PA neu addurno'r gwagle mewn ffordd arbennig, ac i wybod mwy am opsiynau arlwyo.
Mae'r Neuadd Fawr yn ddigon eang i gynnal pob math o adloniant, gan gynnwys corau, artistiaid clasurol, bandiau, dawnswyr awyr a mwy. Siaradwch â'n tîm arbenigol am argymhellion.
Ymhlith y cleientiaid sydd wedi mwynhau nosweithiau yn ein horielau yn y gorffennol mae Knights Brown Construction, Vodafone Business a Celtic English Academy.
Mae prisiau llogi lleoliad unigryw yn dechrau o £3,900 + TAW. Cynigir pecynnau arlwyo ar wahân. Cysylltwch â'n tîm digwyddiadau i gael dyfynbris ar gyfer anghenion eich digwyddiad.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad, llogi neu gynllunio ymweliad ar safle.
Cysylltwch â ni