Tasg Pedwar - Twf y Gymuned
Mae'r wybodaeth olaf sydd ei hangen arnoch i ysgrifennu'ch adroddiad yn ymwneud â thwf tref Blaenafon yn sgil adeiladu'r Gwaith Haearn a'r holl byllau glo lleol gerllaw. Pa fath o le oedd e? Pa fath o gyfleusterau oedd yno? Pa mor fawr oedd e? Pa mor gyflym wnaeth e dyfu?
Edrychwch ar y
rhestr o ddyddiadau allweddol ar gyfer Blaenafon i weld pryd yn union y digwyddodd rhai o'r pethau pwysicaf.Erbyn hyn, dylech fod wedi dysgu cryn dipyn am fywyd pobl Blaenafon.
Casglwch ragor o dystiolaeth o'r gweithgareddau a defnyddiwch eich dychymyg a'ch gwybodaeth gefndir i geisio deall sut fath o le oedd Blaenafon erbyn 1842.
Cofiwch glicio ar y dolenni gwefannau, rhestr lyfrau neu gronfa adnoddau i ddysgu mwy am fywyd yn yr ysgol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.