Tasg 2 - Cartrefi ac Iechyd
1) Taith Rithwir Bwthyn Gweithiwr Haearn
Cefndir
Mae nifer o hen dai diwydiannol ger gwaith haearn Blaenafon wedi’u diogelu gan Cadw: Henebion Cymru. Adeiladwyd y tai, Stack Square, pan sefydlwyd y gwaith haearn tua diwedd y ddeunawfed ganrif ar gyfer rhai o’r gweithwyr hanfodol a’r gweithwyr mwyaf medrus. Er eu bod yn fach ac yn gyfyngedig o ran lle o gymharu â safonau heddiw, mae’n debyg mai dyma rai o’r tai gorau a godwyd i weithwyr yn y dref yn ystod y cyfnod o ffyniant diwydiannol.
Ar gyfer yr ymarferiad hwn, ailddodrefnwyd un ystafell mewn bwthyn am un diwrnod a thynnwyd llun panoramig ohoni er mwyn darparu ‘taith rithwir’ o gwmpas cartref gweithiwr haearn tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid oedd modd i ni ffilmio mwy o’r tŷ oherwydd prinder amser, ond mae bron pob agwedd hanfodol ar fywyd cartref wedi’i chynrychioli yn y daith syml hon. Mae cofnod cyfrifiad 1841 ar gyfer y tŷ penodol hwn wedi’i gynnwys yn adran Cartrefi ac Iechyd y Gronfa Adnoddau.
Y Daith Rithwir
Wrth i’r plant deithio o gwmpas yr ystafell yn defnyddio eu llygoden, byddant yn dod ar draws nifer o ‘fannau poeth’, a gynrychiolir gan saeth; wrth glicio ar y rhain, bydd y plentyn yn cael golwg agosach ar y rhan benodol honno o’r ystafell. Gall hyn fod yn ddarn fideo byr, golwg agosach ar ran o’r ystafell (e.e. y gegin) a/neu olwg fanylach ar wrthrych unigol y gellir ei droi. D.S. Mae’n bosibl y bydd plant craff yn sylwi ar y camgymeriad ‘bwriadol’ yn un o’r darnau fideo: mae’r wraig sy’n smwddio’n dal yr haearn smwddio heb roi lliain o gwmpas yr handlen i ddiogelu’i llaw rhag y gwres. O fewn pob man poeth, gall plant hefyd gael mynediad i ffeil destun a fydd yn darparu rhywfaint o wybodaeth allweddol iddynt am agweddau ar fywyd mewn tŷ fel hwn.
Pwyntiau Allweddol
Y prif bwyntiau addysgu yw:
- Nid oes nwy, trydan, dŵr tap, draeniau neu garthffosiaeth yn y tŷ hwn. Roedd dŵr yn cael ei gasglu y tu allan i’r tŷ, o nant, ffynnon, pwmp neu gasgen ddŵr glaw o bosibl (gweler y man poeth bwced).
- Defnyddiwyd un ystafell ar gyfer bron pob tasg ddomestig, fel: gweithio; coginio; bwyta; ymlacio; ymolchi a golchi dillad a hyd yn oed cysgu.
- Roedd y golau’n dod o olau naturiol drwy’r ffenestr fach a/neu’r drws (nid yn ystod tywydd gwael). Bydden nhw’n llosgi brwyn hefyd i gael golau, (yn rhad ond yn gymharol aneffeithiol) neu ganhwyllau (mwy o olau ond yn ddrud). Gweler man poeth y daliwr canhwyllau. Nid yw’r ffenestr yn agor. Roedd awyru gwael mewn cartrefi’n broblem gyffredinol, ac yn aml yn arwain at broblemau lleithder. O ganlyniad, roedd salwch a chlefydau’n gysylltiedig â’r system anadlu’n gyffredin ac yn angheuol yn aml.
- Roedd y gwres yn dod o’r tân yn y gegin (tân coed neu lo) a defnyddiwyd hwn i goginio’r holl fwyd hefyd (gweler man poeth y gegin). Roedd ffwrn fach yng nghornel chwith y lle tân ar gyfer pobi bara gwenith, er mae’n debyg bod bara ceirch yn fwy cyffredin yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd hwn yn cael ei bobi dros y tân ar faen (fel picau ar y maen) a gwelir enghraifft yn y prif lun, ychydig y tu ôl i’r gwely. Roedd cawl llysiau neu lobscows yn cael ei fwyta bron bob dydd yn y rhan fwyaf o gartrefi Cymru, ac roedd i’w weld yn mudferwi mewn powlen grog neu grochan dros y tân. Roedd modd defnyddio’r ffwrn ar yr ochr dde i rostio cig, er mai anaml iawn y byddai llawer o deuluoedd wedi cael mwynhau’r moethusrwydd hwn yn nhref ddiwydiannol Blaenafon. Sylwer hefyd ar y tegell ar ganol y grât; roedd y teulu yn dibynnu ar y tân i gael dŵr poeth ar gyfer coginio, yfed neu olchi.
- Roedd llawer gormod o bobl yn byw yng nghartrefi’r gweithwyr diwydiannol yn aml, gan fod rhieni’n tueddu i fagu cymaint o blant â phosibl. Rhan o’r rheswm am hyn oedd cynyddu enillion y teulu (gweler y Gronfa Adnoddau) a rheswm arall oedd y ffaith fod cyfradd marwolaethau plant yn uchel iawn (gweler Gweithgaredd 2 isod). Roedd llawer o gartrefi yn cynnig llety am dâl hefyd, eto er mwyn cynyddu incwm y teulu. Roedd trefniadau cysgu’n elfennol iawn gan amlaf, gyda sawl person (heb ymolchi) yn rhannu’r un gwely yn aml (gweler y man poeth gwely).
- Mae rhai o fwydydd pwysicaf cartref gweithiwr diwydiannol i’w gweld ar y bwrdd. Yn ogystal â’r bwyd y cyfeirir ato uchod (h.y. bara gwenith, bara ceirch a lobscows), ymysg y prif fwydydd eraill oedd: menyn; lard; caws; tatws; llysiau; uwd; y prif ddiodydd oedd te a chwrw. Defnyddiwyd dulliau cyntefig iawn i storio bwyd: roedd modd halltu neu fygu cig a phiclo rhai bwydydd neu eu troi’n gyffeithiau (gweler man poeth jar storio).
- Prinder dodrefn, addurniadau a moethau. Byddai wedi bod yn anodd iawn gorffwys ac ymlacio yn dilyn diwrnod o waith caled iawn .
- Natur lafur-ddwys y gwaith tŷ (gweler y man poeth ysgubell). Heb drydan, roedd angen cryn ymdrech gorfforol i wneud gwaith tŷ fel glanhau, golchi a choginio. D.S. Nododd rhai merched yn eu tystiolaeth i’r Comisiwn Brenhinol eu bod yn gorfod helpu eu mamau â’r gwaith tŷ ar ôl dod adre’ o’r gwaith (gweler fideo Servants of the Empire a’r Gronfa Adnoddau).
Y Gweithgaredd
Dylai’r daflen weithgaredd helpu’r plant i ddod o hyd i wybodaeth ffeithiol allweddol o’r daith a’i chofnodi. Mae mwyafrif yr ‘atebion’ neu syniadau perthnasol wedi’u cynnwys yn y mannau poeth a’r ffeiliau testun, a bydd dod o hyd i’r wybodaeth hon yn brawf ar sgiliau arsylwi’r plant a’u gallu i gymryd nodiadau.
2) Gweithgaredd Siopa Cael Dau Ben Llinyn Ynghyd
Amcanion
Mae yna ddau amcan i’r gweithgaredd hwn:
- Gweld pa mor llwyddiannus y mae plant wrth reoli arian prin y teulu a chyflawni’r amcan dymunol o sicrhau bod eu teulu yn gynnes, yn lân ac yn cael digon o fwyd. Allan nhw wneud dewisiadau synhwyrol wrth wario’u harian er mwyn darparu deiet cytbwys ac amgylchedd cartref cyfforddus (o fewn terfynau’r gyllideb)?
- Helpu plant i sylweddoli y byddai cyflawni’r amcan hwn wedi bod yn haws o lawer i rai teuluoedd a bron yn amhosibl i eraill, gan ddibynnu ar eu sgiliau, eu statws a’u henillion.
Dylid annog plant i ystyried y goblygiadau iechyd tebygol i deuluoedd tlotach yn sgil y ffaith nad yw eu cyllideb wythnosol yn eu galluogi i gael deiet cytbwys a digon o faeth i’w paratoi am eu gwaith caled bob dydd yn y gwaith. Dylai’r gweithgaredd Babanod, Cornwydydd a Chladdedigaethau yn y dasg Cartrefi ac Iechyd eu helpu i archwilio’r syniad hwn ymhellach.
Mae taflen weithgaredd wedi’i darparu i helpu i grynhoi rhai syniadau a chasgliadau.
Tystiolaeth
i) Galwedigaethau a Chyflogau
Ar gyfer yr ymarferiad hwn, rydym yn cymryd yn ganiataol bod yna chwe aelod o’r teulu (mae cofnodion cyfrifiad enghreifftiol Gweithgaredd 1 yn awgrymu bod yna 7 mewn gwirionedd). Nid teuluoedd go iawn yw’r tri theulu, ond mae’r galwedigaethau a’r cyflogau sy’n cael eu nodi yn dod yn uniongyrchol o adroddiad Comisiwn Brenhinol 1842 y cyfeiriwyd ato yn gynharach, ac maent felly’n ddilys ar gyfer pob aelod o’r teulu.
D.S. Mae cyflogau a phrisiau’n cael eu mynegi mewn hen geiniogau (d.) yn hytrach na mewn punnoedd, sylltau a cheiniogau (£, s. d.) oherwydd mae’n rhaid i bopeth gael ei fynegi mewn uned arian sengl mewn ymarferiad fel hwn er mwyn hwyluso cyfrifiadau a chymariaethau.
ii) Prisiau a Chyfansymiau
Mae prisiau a chyfansymiau bob nwydd yn amrywio i raddau helaeth oherwydd ein bod wedi gorfod casglu tystiolaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau a dyddiadau. Mae rhai prisiau/cyfansymiau bron yn hollol gywir ar gyfer Blaenafon ym 1842. Er enghraifft, mae cofnodion 1840 yn dangos bod Siop Dryc Blaenafon* yn codi 24d. am 4 pwys o gig dafad, 22d. am 4 pwys o gig eidion a 18d. am fag 2 bwys o siwgr. Mae eraill yn gywir o ran y dyddiad ond nid o anghenraid o ran y lleoliad; er enghraifft, mae’r Illustrated London News yn nodi mai 10d. yw pris torth bara gwenith 4 pwys ar 1 Hydref 1843. Fodd bynnag, mewn rhai achosion rydym wedi canfod pris cyfanswm arbennig o nwydd penodol, ond ar ddyddiad ychydig yn wahanol; mewn achosion eraill, rydym yn gwybod beth yw cyfran yr incwm wythnosol a fyddai wedi cael ei wario ar gyfartaledd ar nwydd penodol (e.e. tatws), ond nid yr unedau maint. Rydym wedi gorfod dyfalu rhai pethau o ganlyniad.
*Roedd Siop Dryc yn eiddo i’r cwmni a oedd yn cyflogi ac yn talu’r gweithwyr. Roedd y prisiau’n sylweddol uwch na phrisiau siopau preifat, ond talwyd y gweithwyr gyda thocynnau’r cwmni a oedd i’w defnyddio yn y Siop Dryc yn unig yn hytrach na gydag arian. O ganlyniad, roedd y rhain ynghlwm wrth brisiau’r cwmni. Roedd y System Dryc yn hynod amhoblogaidd ac fe gafodd ei dileu yn ddiweddarach yn y ganrif.
Y Gweithgaredd
Fodd bynnag, er gwaethaf y cymhlethdodau hyn mae’r ymarferiad yn un dilys. Mae’r rhestr brisiau’n cynnwys yr holl brif nwyddau y byddai teulu dosbarth gweithiol wedi dibynnu arnynt, ynghyd â nifer o eitemau moethus neu eitemau llai hanfodol a fyddai ar gael (ac yn ddeniadol) iddo. Mae’n rhaid i’r plant benderfynu pa eitemau yw’r pwysicaf, a faint o’u hincwm y byddant yn ei wario ar bob un. Y bwyd pwysicaf oedd bara. Er mwyn gwneud yr ymarferiad yn fwy realistig ac anodd, rydym wedi neilltuo swm penodol o gyllideb pob teulu ar gyfer bara a rhent (elfen arall o’r gyllideb nad oedd gan y teulu unrhyw reolaeth drosti, neu ddim ond ychydig iawn o reolaeth). Mae cyfanswm y bara a oedd yn cael ei fwyta wedi’i gyfrifo ar sail un dorth y dydd ar gyfer dynion a hanner torth y dydd ar gyfer menywod a phlant.
Mae’n debyg y bydd y plant yn canfod nad yw teulu’r labrwr yn gallu fforddio prynu popeth sydd ei angen arno bob wythnos, nac yn gallu cynilo arian neu ei wario ar ddillad neu ddodrefn, er gwaetha’r ffaith fod pedwar aelod o’r teulu yn gweithio. Yn ddi-os, nid oes arian ar gael ar gyfer hamdden neu adloniant. Er bod sefyllfa teulu’r glöwr rywfaint yn well, nid yw’n gyfforddus o bell ffordd. Mae’n ymddangos bod teulu’r pydlwr yn gwneud yn gymharol dda yn ystod y cyfnod hwn. Yn ddiau, roedd y pydlwyr ymysg y gweithwyr diwydiannol mwyaf llwyddiannus, ond roedd eu cyflogau’n newid yn ddirfawr bob blwyddyn a gallent fod wedi cynyddu neu leihau (o bosibl yn sylweddol) erbyn yr un amser y flwyddyn nesaf. Roedd yn ddoeth iawn iddynt gynilo rhywfaint o’u harian felly.
D.S. Yr hyn na allwn ei gyfrifo yw’r graddau y byddai cynnyrch cartref, fel llysiau a chadw mochyn o bosibl wedi ychwanegu at ddeiet y teulu. Efallai y gellid gofyn i’r plant feddwl am ddulliau eraill i’r teulu ddod o hyd i fwyd heblaw drwy ei brynu?
3) Gweithgaredd Babanod, Cornwydydd a Chladdedigaethau
Amcanion
Yng ngweithgaredd cyntaf y dasg hon mae’r plant wedi nodi prif nodweddion amodau cartrefi ac wedi trafod eu goblygiadau posibl o ran iechyd a bywyd teuluol; yn yr ail maent wedi gweld sut oedd cyfraddau tâl yn amharu ar allu llawer o deuluoedd i ddarparu deiet cytbwys, maethlon ac amgylchedd cartref iach. Yn y gweithgaredd hwn, bydd plant yn ystyried ac yn dadansoddi tystiolaeth ar gyfer effeithiau cronnol yr amgylchiadau hyn ar ddisgwyliad oes ac yn nodi rhai o’r clefydau mwyaf cyffredin a difrifol a oedd yn effeithio ar weithwyr yn y cyfnod hwn.
Tystiolaeth
Mae’r dystiolaeth yn ymwneud â chladdedigaethau yn dod o’r gofrestr o farwolaethau ar gyfer plwyf Llanofer* yn y flwyddyn 1841. Mae’r dystiolaeth ar gyfer clefydau cyffredin yn dod o lyfrau log Ysgol Sant Pedr, Blaenafon. Fodd bynnag, mae’r cofnodion hyn yn perthyn i ran olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan fod cofnodion y cyfnod yr ydym yn canolbwyntio arno ar goll. Er bod hyn yn anffodus, elfen bwysig o’r broses o ddysgu meddwl fel hanesydd yw cydnabod bod darnau allweddol o wybodaeth ar goll weithiau. Mewn rhai achosion, gallwn lenwi’r bylchau mwy neu lai drwy ddefnyddio tystiolaeth o natur debyg; yn yr achos hwn rydym wedi defnyddio tystiolaeth o’r un lle, yr un ffynhonnell ond o gyfnod ychydig yn ddiweddarach. Nid yw’n berffaith, ond mae’n agos iawn.
Y Gweithgaredd
Mae yna dair rhan i Babanod, Cornwydydd a Chladdedigaethau. Yn y rhan gyntaf, mae’r plant yn cofnodi data yn ymwneud ag oedran marwolaeth pobl leol ym 1841. Wrth iddynt gofnodi’r wybodaeth ar siart cyfrif, mae graff bar yn cael ei greu’n awtomatig sy’n dangos y gyfradd uchel o farwolaethau plant yn glir. Yn y ffenestr gwestiynau, mae nodweddion y patrwm hwn yn cael eu hatgyfnerthu a gofynnir i’r plant ddefnyddio’r wybodaeth y maent wedi dod o hyd iddi eisoes i egluro’r patrymau. Ar ôl dysgu bod llawer o blant yn marw yn y cyfnod hwn, mae’r plant yn dod o hyd i wybodaeth am rai o’r clefydau a oedd yn gyfrifol am y gyfradd farwolaethau echrydus yn yr adran ar lyfrau log yr ysgol.
*Ni chrëwyd plwyf eglwysig Blaenafon tan 1860. Fe gafodd ei ffurfio o rannau o nifer o blwyfi eraill, gan gynnwys plwyf Llanofer.