Project Castell Sain Ffagan
Rydyn ni’n cyflawni project cyffrous i osod to newydd ar Gastell Sain Ffagan.
Mae Castell Sain Ffagan yn adeilad rhestredig Gradd I ac ymhlith plastai Oes Elisabeth gorau Cymru.
Mae to'r Castell wedi cyrraedd diwedd ei oes, ac rydyn ni'n cychwyn ar broject uchelgeisiol i osod to cwbl newydd, diolch i nawdd Llywodraeth Cymru.
Mae sgaffaldiau mawr wedi cael eu gosod ar bob ochr i'r Castell ac mae’r to wedi cael ei gorchuddio i alluogi’r gwaith i ddechrau. Mae ardaloedd lawr grisiau yn y Castell wedi ail agor i ymwelwyr, gan gynnwys y neuadd, y gegin a phantri’r bwtler.
Amcangyfrifir y bydd project to’r Castell yn cymryd dwy flynedd i’w gwblhau, gyda disgwyl i’r to newydd fod yn barod i gael ei ddadorchuddio yn 2027.