Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae Bryn Eryr, y fferm Oes Haearn yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, nawr ar agor i’r cyhoedd. Mae’r adeilad, sy’n seiliedig ar safle archaeolegol o gyfnod y goresgyniad Rhufeinig, yn ailgread o fferm fechan ger Llansadwrn yn nwyrain Ynys Môn.
Mae’r adeilad yn cynnwys dau dŷ crwn gyda waliau clai sy’n chwe throedfedd o drwch, a thoeau gwellt siâp côn.
Cafodd ei adeiladu gyda chymorth cannoedd o wirfoddolwyr, plant ysgol a phobl leol o Drelái a Chaerau. Gyda chymorth tîm adeiladu’r Amgueddfa, buont yn codi’r waliau clai, helpu i ddehongli hanes y tai ac ailddarganfod bywydau’r preswylwyr gwreiddiol.
Bryn Eryr yw’r adeilad cyntaf i gael ei gwblhau fel rhan o broject ailddatblygu Sain Ffagan.