Digwyddiadau

Cwrs: Cyflwyniad i Waith Lledr

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
24 Medi 2022, 10.30am-4pm
Pris £85 | £70 gostyngiad (+ ffioedd Eventbrite)
Addasrwydd 16+*
Archebu lle Eventbrite
Llun: Cwrs gwaith lledr yn Sain Ffagan
Llun: Cwrs gwaith lledr yn Sain Ffagan

Cwrs diwrnod yn rhoi’r cyfle i chi droi eich llaw at waith lledr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Mewn grŵp bychan dan ofal clocsiwr yr Amgueddfa, Geraint Parfitt, byddwch chi’n dysgu sut i dorri, pwytho a siapio lledr, a chreu pwrs bach hardd. Mae hwn yn gwrs addas i ddechreuwyr ac mae’r pris yn cynnwys yr holl ddeunyddiau angenrheidiol.

Tocynnau


Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs  *(heblaw am Bopty Derwen)

Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi gyda manylion drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu. 

Iaith: Mae hwylusydd y cwrs hwn yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg).
Hygyrchedd: Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.

Gostyngiadau: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed a dan 18* (rhaid i blant 16–18 fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan)

Telerau ac amodau: Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.

Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.

Efallai hoffech chi rhain hefyd?

Digwyddiadau