Arddangosfa:Cymru... cofio Terrence Higgins
Ganwyd Terrence Higgins yn Sir Benfro ym 1945 a bu farw ym 1982 – roedd yn un o'r bobl gyntaf yn y DU i farw o afiechyd yn gysylltiedig ag AIDS.
I nodi deugain mlynedd ers ei farwolaeth, cynhyrchwyd cwilt i ddathlu ei fywyd a sefydlu Terrence Higgins Trust wnaeth fenthyg y cwilt i'r arddangosfa. Mae'r wyth panel yn dathlu gwahanol rannau o'i fywyd, fel Cymro, dyn hoyw, ac aelod o'r Llynges Frenhinol.
Bydd y cwilt i'w weld yn oriel Cymru...rhwng 29 Ionawr a 29 Mehefin 2026.
Gwybodaeth
©️Terrence Higgins Trust
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd