Digwyddiadau

Cwrs: Plygu Basgedi i Ddechreuwyr

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
11 Mawrth 2023, 10:30 - 4yh
Pris £85 | £70 Gostyngiad
Addasrwydd 16+*
Basged

Basged mwyar

 

Dewch i greu basged brydferth (does dim angen unrhyw brofiad). Byddwch chi'n dysgu technegau basgedu Bôn a Chainc, ac yn defnyddio helyg wedi'i dorri a'i stribedu’n ffres i greu basged all ddal mwyar neu wyau – ac wyau Pasg hyd yn oed!

 

Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs  *(heblaw am Bopty Derwen) 

Mae pris y cwrs yn cynnwys parcio. Bydd y tîm tocynnau yn cysylltu â chi gyda manylion drwy'r e-bost a ddarparwyd wrth archebu 

Cod post llywio â lloeren – CF5 6XB 

Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw. 

Iaith: Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg 

Gostyngiad: Myfyrwyr gyda cherdyn NUS, pobl sy’n derbyn budd-daliadau. Pobl dros 60 oed a dan 18* (rhaid i blant 16–18 fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan). 

Hygyrchedd: Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parciocysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd. 

 

Telerau ac amodauMae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.

 

Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon. 

 

TOCYNNAU 

 

Cymerwch olwg ar gyrsiau eraill gan Amgueddfa Cymru yma: Cyrsiau Creadigol yn Amgueddfa Cymru | Museum Wales

Digwyddiadau