Digwyddiad:Gŵyl Ifan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Dewch i ddathlu Gŵyl Ifan yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru!

Gŵyl sy’n dathlu traddodiadau dawnsio gwerin Cymru a gwledydd tramor yw Gŵyl Ifan, ac mae'n dathlu 50 mlynedd eleni. 

Bob blwyddyn, mae dawnswyr a cherddorion o bob cwr o Gymru yn dod at ei gilydd i berfformio a diddanu’r cyhoedd gyda dawnsio trawiadol, gwisgoedd lliwgar, cerddoriaeth hwylus a defodau traddodiadol.

Ymunwch â ni i wylio Cwmni Dawns Werin Caerdydd yn codi'r pawl haf a'n perfformio dawnsio gwerin. 

Croeso cynnes i bawb!

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cwmni Dawns Werin Caerdydd (cdwc.org)

*Gweithgareddau dawns yn ddibynnol ar y tywydd. 

Gwybodaeth

27 Mehefin 2026, 10.30am-12pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Grŵp o ddawnswyr gwerin yn perfformio tu fas i dŷ fferm goch yn Sain Ffagan
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Digwyddiadau perthnasol

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau