Digwyddiad:Wythnos Addysg Oedolion - Diwrnod i Ddysgwyr Saesneg
Galwch draw i’n gweld ni yn Sain Ffagan am ddiwrnod arbennig i oedolion sy'n dysgu Saesneg (ESOL).
Dewch i ymarfer eich Saesneg, chwarae gemau bwrdd, darganfod yr adnoddau sydd ar gael yn Sain Ffagan i bobl sy'n dysgu Saesneg, cwrdd â dysgwyr eraill a chael gwybod mwy am gyfleoedd dysgu eraill.
Mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru.
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
Ar Agor 10am-5pm bob dydd
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.
Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.
Parcio
Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis am £30. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd