Digwyddiad:Grŵp Sgetsio Sain Ffagan
Ymunwch â’n grŵp braslunio anffurfiol newydd i archwilio golygfeydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru trwy ddarlunio. Mae croeso i bob lefel sgil, ac mae deunyddiau darlunio ar gael os oes angen.
Dewch i gwrdd yn y Gweithdy am 10:30am bob mis am fore llawn hwyl o greadigrwydd.
Cyflwynir gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru mewn partneriaeth â Bywydau Creadigol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â gareth@creative-lives.org
Dyddiadau ac amseroedd | Yr ail ddydd Gwener o bob mis 10.30am-12.00pm | Rhaid archebu lle.
Rhagfyr 13, 2024
Ionawr 10, 2025
Chwefror 14, 2025
Mawrth 14, 2025
Am unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â archebu tocynnau, e-bostiwch: tocynnau@amgueddfacymru.ac.uk
Os ydych chi wedi archebu ond yn methu dod, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost uchod er mwyn i ni gynnig y tocyn i rywun arall.
Gwybodaeth
Tocynnau
Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
---|---|---|
10 January 2025 | 10:30 | Gweld Tocynnau |
14 February 2025 | 10:30 | Gweld Tocynnau |
14 March 2025 | 10:30 | Gweld Tocynnau |