Digwyddiad:Teithiau Sain Ddisgrifiad yn Sain Ffagan | Mae Pob Gwrthrych yn Adrodd Stori
Dewch i Sain Ffagan am y daith ddisgrifiad sain am ddim hon i bobl ddall a phobl â nam ar eu golwg, i ddarganfod mwy am wrthrychau o'r Casgliad Trin a Thrafod. Mae'r gwrthrychau hyn yn ein helpu i ddod â'r gorffennol yn fyw ac yn cynrychioli amrywiaeth o gyfnodau gwahanol o hanes.
Mae pob gwrthrych, boed yn replica neu'n wrthrych go iawn, yn adrodd stori am Gymru, ei phobl a'i gorffennol.
Ymunwch â ni i ddarganfod rhai o'r straeon hyn gyda'n gilydd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Bydd y daith hon yn Ddwyieithog
- Oedran addasrwydd: 18+
- Bydd y sesiwn yn para tua 2 awr.
Gellir dod o hyd i’r holl wybodaeth hygyrchedd am Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yma.
Mae 1 tocyn yn yn rhoi'r hawl i chi ddod â chynorthwy-ydd personal.
Rhowch wybod os ydych yn bwriadu dod â chynorthwy-ydd personal,neu chi tywys, neu os hoffech i'r amgueddfa ddarparu tywysydd ar eich cyfer.
Gwybodaeth
Mwy o gynnwys
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd