Digwyddiadau

Digwyddiad: Ymweld â Gwesty’r Vulcan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
O 11 Mai 2024
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Bar Gwesty'r Vulcan 

Dewch i ymweld â Gwesty’r Vulcan – yr adeilad hanesyddol diweddaraf yn Sain Ffagan.

Cafodd Gwesty'r Vulcan ei gofrestru fel tafarn (ale house) ym 1853, i wasanaethu’r gymuned Wyddelig yn bennaf yn lle oedd yn cael ei alw’n Newtown ar y pryd. Yn ystod ei hanes hir fe welodd newidiadau mawr wrth i Gaerdydd dyfu’n  ganolfan ddiwydiannol a phrifddinas y genedl. Caeodd drysau’r dafarn am y tro olaf yn 2012.  

Mae’r Vulcan yn cael ei chyflwyno fel ag yr oedd hi yn 1915, blwyddyn bwysig i’r dafarn. Roedd hi newydd weld gwaith ailwampio mawr pan ychwanegwyd y teils brown a gwyrdd ar flaen yr adeilad, ac ail-ddylunio’r ystafelloedd.

Gallwch chi brynu diod, neu mwynhau’r awyrgylch a phrofi sut lle oedd y Vulcan yn 1915.

Gwybodaeth i ymwelwyr:

• Rydyn ni’n disgwyl bydd y dafarn yn brysur iawn am yr wythnosau cyntaf a bydd rhaid i chi giwio i gael mynediad         
• Does dim hawl mynd a phramiau neu cŵn i mewn i’r dafarn         
• Mae croeso i chi ymweld â’r Vulcan heb brynu diod


 

Cwestiynau Cyffredin (PDF)


 

Dysgwch mwy am hanes y dafarn        
Archebwch ddetholiad o gwrw 


 

Digwyddiadau