Arddangosfa:Cymru… yw ein cartref

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Mae Cymru'n gartref i bobl o bedwar ban byd. 

Mae cymunedau o Tsieina wedi bod yma ers dechrau'r 20fed ganrif o leiaf. Morwyr oedd nifer o'r mewnfudwyr cyntaf hyn. ⁠  

Ers y 1940au, arweiniodd newidiadau gwleidyddol ac economaidd at gynnydd yn y mewnfudo o Tsieina i Gymru. Heddiw, mae pobl o dras Tsieineaidd yn byw ym mhob cwr o Gymru, yn cyfrannu at ein cyfoeth o ddiwylliannau, credoau ac ieithoedd. Mae cymunedau sylweddol wedi magu gwreiddiau yn Abertawe, Bangor, Caerdydd a Chasnewydd ers degawdau.  


Cynhyrchwyd yr arddangosiad hwn mewn partneriaeth â Chymdeithas Tsieineaid Cymru fel rhan o broject Ein Straeon, dan nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae'n cynnwys straeon wyth person o dras Tsieineaidd sy'n byw yng Nghymru heddiw, yn eu geiriau eu hunain. Dysgwch am eu taith i Gymru, a'r heriau o adeiladu bywyd newydd mor bell o’u mamwlad. Mae'r hanesion yn dangos sut maen nhw a'u disgynyddion wedi gwneud eu marc ym mhob agwedd o fywyd Cymru: trwy eu swyddi a'u busnesau, a'u cyfraniad at ein cymunedau a'n diwylliant. 
 

Gwybodaeth

12 Tachwedd 2024 – 6 Medi 2026
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Logo Cymdeithas Tseiniaidd yng Nghymru
Logo dwyieithog Cronfa Treftadaeth

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau