Digwyddiad:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: O’r Blawd i’r Becws
Ymunwch â ni yn y Felin yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru lle bydd y melinydd, Geraint Thomas, yn dangos sut mae creu blawd. Byddwn ni wedyn yn mynd draw i’r becws cymunedol i ddysgu mwy, cyn gorffen gyda gweithgaredd ymarferol ysgafn.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
- Cyfle i grwydro a mwynhau'r amgueddfa allanol
- Diod gynnes a sgwrs
Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa. Mae'r daith yn para tua 3 awr, gyda digon o oedi a lluniaeth.
Ar ein gwefan mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yn Sain Ffagan.
Mae'r cyfleoedd hyn yn agored yn unig i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.
Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle, cliciwch ar y blwch ‘Archebu tocynnau’ i’r dde. Neu gallwch chi ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Os ydych chi wedi archebu lle ond wedyn yn methu ymuno â ni, rhowch wybod cyn gynted â phosib. Mae'n bosib y byddwn ni'n codi tâl gweinyddol fel arall.
Am ragor o wybodaeth, neu i siarad trwy unrhyw bryderon am ymuno â ni, anfonwch e-bost at mims@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3418.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

