Digwyddiad:Dydd Gŵyl Dewi
Lle gwell i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi na Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru?
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu’r diwrnod arbennig hwn gyda:
- Cyfle i weld casgliad arbennig o delynau a chadeiriau Eisteddfod o storfa Amgueddfa Cymru.
- Cerddoriaeth fyw ar y delyn am 10.30am, 11.30am, 1.30pm a 2.30pm.
- Dawnsio gwerin traddodiadol am 1.30pm a 3pm.
- Perfformiadau gan gerddorion a chlocswyr Trac Cymru am 10am, 11.15am, 12.30pm, 2.15pm a 3.15pm.
- Cyfle i gamu i mewn i'r gegin hanesyddol yn Llwyn-yr-eos wrth i'r teulu baratoi at y gwanwyn am 11am-1pm a 2-4pm.
- Gweithgareddau crefft teuluol am ddim drwy gydol y diwrnod.
- Cyfle i ddysgu sut i hau hadau treftadaeth gyda'r elusen garddio gynaliadwy Garden Organic. Fel rhan o benblwydd Llyfrgell Hadau Treftadaeth (Heritage Seed Library) yn 50 oed, mae’r elusen yn cynnal Ras Gyfnewid Hadau unigryw ac yn rhannu hadau treftadaeth gwerthfawr gyda chymunedau a sefydliadau ledled Cymru’r gwanwyn hwn.
- Dechrau'r tymor wyna yn Fferm Llwyn-yr-eos.
Ydych chi'n bwriadu mynychu'r digwyddiad?
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Mwy o gynnwys
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd