Digwyddiad:Gŵyl Fwyd Sain Ffagan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Oherwydd rhagolwg glaw trwm a gwyntoedd cryf, bydd Gŵyl Fwyd Sain Ffagan yn cau am 4pm ddydd Sul 14 Medi. Rydym yn cymryd y cam hwn i sicrhau diogelwch ein hymwelwyr, masnachwyr a staff. 

Bydd gweithgareddau awyr agored yn cael eu canslo, gan gynnwys y gerddoriaeth fyw. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra. 

Ffefryn cadarn yng nghalendr bwyd Cymru, bydd Sain Ffagan yn dod yn fyw gyda dros 70 o stondinau bwyd, diod a chrefft yn nythu ymhlith yr adeiladau hanesyddol.

Mwynhewch wledd o weithgareddau bwyd sy'n addas i deuluoedd, arddangosiadau coginio, danteithion blasus a cherddoriaeth gan rai o gynhyrchwyr gorau Cymru.

Byddwn yn cyhoeddi mwy o wybodaeth am stondinwyr a rhaglen gweithgareddau'r ŵyl cyn bo hir - cadwch lygad ar wefan yr Ŵyl Fwyd am y newyddion ddiweddaraf.

Gwefan yr Ŵyl Fwyd

Gadewch i ni wybod eich bod yn dod i'r digwyddiad ac ymunwch â’n rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf am yr Ŵyl Fwyd. Fel diolch, cewch 10% i ffwrdd yn siop yr Amgueddfa yn ystod penwythnos yr ŵyl!

Cofrestrwch eich diddordeb

Gwybodaeth

13 a 14 Medi 2025, 10am-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Torf o bobl yn yr ŵyl fwyd
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau