Arddangosfa:Cymru... amdani hi
O waharddiad 50 mlynedd i ddiffyg cyllid, nid yw taith pêl-droed menywod yng Nghymru wedi bod yn un hawdd. Ond er gwaethaf pawb a phopeth, mae’r tîm wedi llwyddo.
Heddiw, mae tîm Menywod Cymru yn denu torfeydd mwy nag erioed, ac mae eu llwyddiant wedi ysbrydoli merched ifanc ledled y wlad i gefnogi a chwarae pêl-droed.
Cynhyrchwyd yr arddangosiad hwn mewn partneriaeth â Chasgliad Pêl-droed Cymru, Amgueddfa Wrecsam a Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae'n cynnwys straeon a gwrthrychau sy'n ymwneud â'r tîm cenedlaethol o gasgliad Amgueddfa Cymru a Chasgliad Pêl-droed Cymru.
Bydd Wrecsam yn croesawi ‘Yr Amgueddfa Ddwy Hanner’ yn 2026. Bydd adeilad presennol Amgueddfa Wrecsam yn cael ei ailddatblygu’n amgueddfa newydd sbon i Wrecsam, ochr yn ochr ag Amgueddfa Bêl-droed i Gymru.
Gwybodaeth
Crys wedi’i lofnodi gan dîm Menywod Cymru, 2022
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd
