Digwyddiad: Bore Dysgwyr Cymraeg | Straeon Cudd Ffermdy Kennixton
Ymunwch â ni yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am fore o sgwrsio yn Gymraeg i ddysgwyr, Byddwn ni'n rhannu straeon cudd Ffermdy Kennixton a llên gwerin milltir sgwâr y fferm ar Benrhyn Gŵyr.
Dewch draw i ymarfer eich Cymraeg, cwrdd â dysgwyr eraill, gweld yr holl adnoddau i ddysgwyr sydd ar gael yn Sain Ffagan, a dysgu am gyfleon eraill i ymarfer eich Cymraeg.
Mewn partneriaeth â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Dysgu Cymraeg Caerdydd a Menter Caerdydd.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd