Digwyddiad:Teithiau'r Ystlumod

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Hoff o ystlumod? Dewch draw i Sain Ffagan gyda’r hwyr wrth i ni fynd ar drywydd rhai o’r ystlumod sy’n byw yn yr Amgueddfa.
Mae tua deg o rywogaethau ystlum yn byw yn Sain Ffagan. Rydyn ni'n gobeithio gweld rhai ar ein taith, ond allwn ni ddim gwarantu y byddan nhw'n dod allan i hedfan!
Byddwn ni hefyd yn cario datgelyddion ystlum i'n helpu i adnabod y gwahanol ystlumod.

Dydd Iau 13 Awst - 8.30pm

Dydd Mawrth 18 Awst - 8.15pm

Dydd Mercher 19 Awst - 8.15pm

Dydd Mawrth 25 Awst - 8pm

Dydd Mercher 26 Awst - 8pm

Dydd Iau 27 Awst - 8pm

Dydd Sadwrn 5 Medi - 7.45pm

Dydd Sadwrn 19 Medi - 7pm

Gwybodaeth Bwysig

  • Rhaid archebu ymlaen llaw.
  • Archebwch docyn ar gyfer pob person fydd yn dod ar y daith.
  • Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas a dewch â fflachlamp.
  • Mae’r daith yn dechrau wrth brif fynedfa’r Amgueddfa, a bydd yn para rhyw awr a hanner.
  • Mae parcio am ddim.
  • Yn anffodus, allwn ni ddim caniatáu cŵn ar y daith, rhag ofn iddynt ddychryn yr ystlumod.
  • Rydyn ni’n awgrymu bod y daith yn addas i oed 8+ gan fod llawer o gerdded.
  • Hygyrchedd: Mae’r digwyddiad hwn yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn ond bydd rhaid defnyddio llwybrau eraill mewn mannau. Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu os hoffech chi drafod unrhyw bryderon.
  • Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg).
  • Cofiwch y bydd angen i chi ddangos yr e-bost gyda’ch archeb.
  • Os yw hi'n rhy wyntog neu wlyb, bydd yn rhaid canslo'r daith er diogelwch pawb. Byddwn ni'n eich hysbysu chi 24 awr ymlaen llaw ac yn ceisio aildrefnu'r daith.

Gwybodaeth

13 Awst–19 Medi 2026
Pris £8
Addasrwydd 8+
Ystlumod

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau