Digwyddiad:Canu yn y Capel

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Mae ganddon ni wledd Nadoligaidd i chi eto eleni. Bob penwythnos ym mis Rhagfyr byddwn ni'n cynnal amrywiaeth o weithgareddau i'ch helpu chi fynd i hwyl yr ŵyl.
Dewch i weld yr adeiladau hanesyddol wedi'u haddurno fel y bydden nhw dros y Nadolig yn eu hoes nhw, blasu bwyd a diod y tymor yn ein bwyty, neu fwynhau un o'n digwyddiadau dathlu. 
Rydyn ni hefyd yn disgwyl i un o gymeriadau mawr yn ŵyl i ymweld! Cadwch lygad amdano pan fyddwch chi'n galw draw...

Canu yn y Capel

Pa ffordd well o fynd i ysbryd yr ŵyl na chanu carolau yn yr Amgueddfa? 
Dewch draw i Gapel Pen-rhiw, adeilad o’r 18fed ganrif, ar gyfer un o’n digwyddiadau Nadoligaidd mwyaf poblogaidd. Bydd digon o garolau traddodiadol yn ogystal ag ambell glasur fwy cyfoes.

Gwybodaeth Bwysig

  • Rhaid i bawb sy’n dod gael tocyn. 
  • Rhaid gadael pob pram tu allan i’r adeiladau hanesyddol.
  • Mae sesiynau ar gael yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd iaith pob sesiwn wedi ei labeli yn glir ar y dudalen docynnau. Gwnewch yn siwr eich bod yn dewis y tocyn cywir ar gyfer eich dewis iaith.
  • Hygyrchedd: Oherwydd natur hanesyddol y Capel, ychydig o le sydd ar gyfer cadeiriau olwyn. Dewiswch le cadair olwyn wrth brynu’ch tocyn.
  • Mae eich tocyn Canu yn y Capel yn rhoi gostyngiad o 10% i chi ar ddiodydd poeth yng nghaffis yr Amgueddfa ar ddiwrnod eich digwyddiad.
  • Dylai deiliaid tocynnau gyrraedd yn brydlon a dim mwy na 15 munud cyn amser cychwyn eu sesiwn. Caniatewch hyd at 10 munud i gerdded o faes parcio yr Amgueddfa i Gapel Penrhiw.
  • Dylid gwisgo dillad addas i’r tywydd. Bydd gofyn i chi aros y tu allan tan amser cychwyn eich sesiwn.
  • Nid yw pris eich tocyn yn cynnwys parcio. Codir tâl o £7 y diwrnod am barcio.
  • Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.
  • Cŵn tywys yn unig ar gyfer y digwyddiad hwn. 
  • Mae hwn yn adeilad hanesyddol, ac er ei fod yn hygyrch, dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol bod y llawr yn anwastad mewn mannau.
  • Dyrennir seddi ar sail y cyntaf i'r felin, nodwch fod y seddau ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf.
  • Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu eich tocyn i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.Mae tocynnau Hynt ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn.
  • Sicrhewch eich bod wedi cysylltu eich cerdyn Hynt gyda’ch cyfrif Amgueddfa Cymru i hawlio tocynnau am ddim i ofalwyr a chyfeillion drwy’r cynllun hwn.

Mae aelodau yn derbyn gostyngiad o 10%, dewch yn aelod heddiw

Elusen yw Amgueddfa Cymru. Mae popeth a brynwch yn ein siopau a phob rhodd a roddwch, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei fwynhau.

Mae rhaglen digwyddiadau Nadolig Amgueddfa Cymru wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Logos ar gyfer People's Postcode Lottery and Postcode Culture Trust

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.

 
 

Gwybodaeth

6–7, 13–14 a 20–21 Rhagfyr 2025
Pris £6
Addasrwydd Pawb
Canu yn y capel
canu yn y capel
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau