Digwyddiad: Dathliad o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Dewch i fod yn rhan o ddiwrnod bywiog yn Sain Ffagan i ddathlu treftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Bydd cyfle i fwynhau amrywiaeth o berfformiadau yn atriwm Sain Ffagan, gan gynnwys bandiau a dawnswyr gwerin o Gymru, Côr Meibion Risca, grwp dawns Qwerin, Dawns y Llew gyda Chymdeithas Tseiniaidd Cymru, cerddwyr stilts a mwy. 

Bydd crefftwyr traddodiadol yn arddangos eu gwaith yn Gweithdy, gyda cherddorion ac adroddwyr straeon yn Y Vulcan. 

Bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys cyfres o sgyrsiau am dreftadaeth fyw yn y ddarlithfa. 

Mae croeso i bawb. 

Trefnir y digwyddiad hwn gan Lywodraeth Cymru.

Gwybodaeth

20 Tachwedd 2025, 10am - 3.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Grwp dawnsio gwerin tu fas i'r Tolldy yn Sain Ffagan
Clocsiwr yn ei weithdy

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau