Digwyddiad:Helfa Wyau Pasg Sain Ffagan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Y Pasg hwn, mae wyth wy lliwar wedi’u cuddio o amgylch yr Amgueddfa. Allwch chi ddod o hyd iddyn nhw i gyd?

Dewch â’r teulu cyfan a dilynwch ein Helfa Basg hwyliog wrth i chi archwilio adeiladau, tiroedd ac orielau Sain Ffagan. Cadwch lygad barcud, chwiliwch ym mhobman, a thiciwch bob wy wrth i chi ei ddarganfod. Dyma'r ffordd berffaith o ychwanegu ychydig o antur ychwanegol at eich ymweliad.

Casglwch daflen yr helfa am ddim o’r dderbynfa. Does dim angen archebu – dewch draw a mwynhewch!

Gwybodaeth ychwanegol

  • Iaith: Mae’r helfa yn ddwyieithog
  • Oedran: Addas i blant 4+; efallai y bydd angen cymorth at blant iau
  • Sylwer: Rydym yn disgwyl y bydd yr amgueddfa’n brysur iawn yn ystod gwyliau’r ysgol, yn enwedig dros benwythnos y Pasg. Gall tywydd gwlyb effeithio ar ein gallu i ddefnyddio’r maes parcio ychwanegol, a gall hyn arwain at oedi wrth barcio.

Gwybodaeth

28 Mawrth–19 Ebrill 2026
Pris Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd
Tri wy Pasg pren lliwgar wedi eu gosod o flaen Ffermdy Kennixton coch enwog
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

 Oriau Agor

Dydd Llun 10 am–5 pm
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul 10 am–5 pm

 Lleoliad

Caerdydd   
CF5 6XB

  Map a Sut i Gyrraedd Yma

 Parcio

Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis ar gael am £45. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

 Mynediad

  Canllaw Mynediad

Gwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr

Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:

  • Pyllau dŵr a llynnoedd
  • Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
  • Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau