Digwyddiad:Helfa Wyau Pasg Sain Ffagan
Y Pasg hwn, mae wyth wy lliwgar wedi’u cuddio o amgylch yr Amgueddfa. Allwch chi ddod o hyd iddyn nhw i gyd?
Dewch â’r teulu cyfan a dilynwch ein Helfa Basg hwyliog wrth i chi archwilio adeiladau, tiroedd ac orielau Sain Ffagan. Cadwch lygad barcud, chwiliwch ym mhobman, a thiciwch bob wy wrth i chi ei ddarganfod. Dyma'r ffordd berffaith o ychwanegu ychydig o antur ychwanegol at eich ymweliad.
Casglwch daflen yr helfa am ddim o’r dderbynfa. Does dim angen archebu – dewch draw a mwynhewch!
Gwybodaeth ychwanegol
- Iaith: Mae’r helfa yn ddwyieithog
- Oedran: Addas i blant 4+; efallai y bydd angen cymorth at blant iau
- Sylwer: Rydym yn disgwyl y bydd yr amgueddfa’n brysur iawn yn ystod gwyliau’r ysgol, yn enwedig dros benwythnos y Pasg. Gall tywydd gwlyb effeithio ar ein gallu i ddefnyddio’r maes parcio ychwanegol, a gall hyn arwain at oedi wrth barcio.
Cefnogir y digwyddiad gan gefnogwyr hael People's Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd