Digwyddiad:Llwybr Adnabod yr Adar
Mae Sain Ffagan yn gartref i lawer o adar gwahanol.
Mae wyth aderyn wedi'u cuddio o amgylch yr amgueddfa i chi ddod o hyd iddynt.
Casglwch eich llwybr am ddim o'r dderbynfa ac ewch allan i'r safle i weld a allwch chi ddod o hyd iddyn nhw. Allwch chi eu gweld nhw i gyd?
Mae'r llwybrau'n ddwyieithog.
Oedran - Addas ar gyfer 4+ oed; efallai y bydd angen help ar blant iau.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd