Digwyddiad:TwmpDaith
I bob pwrpas – ‘supergroup’ o fand twmpath yw TwmpDaith! Mae'r band yn cynnwys cerddorion a dawnswyr ifanc o dros Gymru ac eleni o Batagonia! Daethpwyd a hwy ynghyd drwy “Prosiect WYTH” - prosiect i hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymreig.
Wedi'i ysbrydoli gan brosiect tebyg yn yr Alban o'r enw’r Ceilidh Trail, mae TwmpDaith wedi hyfforddi a mowldio'r grŵp yn fand twmpath bywiog a brwdfrydig. Mae'r prosiect wedi grymuso'r bobl ifanc i chwarae, cyfeilio, galw, perfformio eitemau a chynnal gweithdai a thwmpathau sy'n addas ar gyfer pob oedran a gallu.
Yr un mor dalentog â'u traed ag y maent gyda'u hofferynnau a'u lleisiau. Heb os, bydd eu brwdfrydedd ifanc, egni diderfyn a'u halawon Cymreig bywiog yn ysbrydoli pawb i ddawnsio mewn dim o dro.
Peidiwch â cholli TwmpDaith - am chwistrelliad heintus o ddawnsio, clocsio ac alawon Cymreig!
Byddan nhw'n perfformio yn y lleoliadau canlynol:
11am Lawnt Gwalia* (tu allan i Siop Gwalia)
1.30pm Atriwm yn y Brif Adeilad
*yn ddibynnol ar y tywydd
Gwybodaeth
Y criw a fydd yn perfformio yn rhan o TwmpDaith 2026
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd