Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Ymunwch â ni yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am dro hamddenol drwy fyd natur, ac yna gweithdy creadigol wedi'i ysbrydoli gan yr hyn rydyn ni wedi'i weld a'i archwilio.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa ac yn para tua 3 awr gyda seibiannau. Byddwn ni'n rhoi talebau i chi am ddiod gynnes neu oer o'r caffi. Mae gwybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa ar gael yma: Mynediad - Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru | Amgueddfa Cymru Mae'r cyfleoedd hyn ar gyfer pobl sy'n byw gyda chanser ac sydd wedi cofrestru fel cleifion gyda Gwasanaeth Canser Felindre a phobl sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda chanser
Rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu lle, cysylltwch â: Sally Thelwell, Cydlynydd Celfyddydau mewn Iechyd yng Ngwasanaeth Canser Felindre: sally.thelwell@wales.nhs.uk Os ydych chi wedi archebu lle ond wedyn yn methu ymuno â ni, rhowch wybod cyn gynted â phosib. Mae'n bosib y byddwn ni'n codi tâl gweinyddol fel arall. Am ragor o wybodaeth, neu i drafod unrhyw bryderon sydd gennych chi ynglŷn â dod, cysylltwch drwy e-bost: loveday.Williams@amgueddfacymru.ac.uk neu sally.thelwell@wales.nhs.uk Neu dros y ffôn: 029 2057 3517
Ar agor ar wyliau banc, heblaw am y Nadolig.
Caerdydd CF5 6XB
Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:
Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis ar gael am £45. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd