Cwrs: Cyrsiau Diwrnod Wyna
Cyfle i fwynhau diwrnod cyfan yn sied wyna fferm Llwyn-yr-eos.
Gyda chymorth craff y tîm wyna, byddwch chi’n dysgu sut i ofalu am ddefaid beichiog, adnabod arwyddion esgor a delio â phroblemau cyffredin. Bydd genedigaeth yn ystod y dydd yn gyfle i dorchi llewys os ydych chi’n teimlo’n hyderus! Cewch dreulio amser yn y feithrinfa gyda’r defaid, yn helpu i asesu anghenion a lles yr ŵyn yn eu dyddiau cyntaf, ond bydd amserlen y diwrnod yn hyblyg, yn dibynnu ar brysurdeb y sied wyna.
Cwrs addas i ddechreuwyr llwyr – does dim angen profiad blaenorol o drin defaid.
Mae tri lle ar gael bob diwrnod. Darllenwch y canllawiau isod cyn archebu.
Canllawiau:
- Dylai unrhyw berson beichiog, sydd â phartner beichiog, neu sy’n ceisio am blentyn ddarllen y canllawiau canlynol gan y GIG (Saesneg yn unig).
- Mae’r cwrs yn anaddas i bobl â phroblemau symudedd oherwydd amodau’r sied wyna. Os oes gennych bryderon, cysylltwch cyn archebu drwy e-bostio digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk
- Mae’r dyddiadau wedi’u trefnu i gynnig y cyfle gorau i weld genedigaeth, ond mae wyna yn fusnes anodd ei ragweld ac allwn ni addo dim.
- Byddwch yn barod i wisgo hen ddillad a throchi – rydyn ni’n argymell gwisgo trowsus gwrth-ddŵr (gallwn ni addo y byddwch chi’n penlinio mewn dom!)
- Mae prisiau yn cynnwys parcio – wedi cyrraedd, ewch at y porthdy diogelwch i gyfarfod eich tiwtor, fydd yn darparu tocyn parcio.
- Darperir lluniaeth ysgafn. Mae croeso i chi ddod â bocs bwyd hefyd neu fynd i un o’r bwytai ar y safle.
- Os ydych chi am dorchi llewys gofynnwn i chi dorri eich ewinedd a thynnu unrhyw farnais a modrwyau. Ein blaenoriaeth yn hyn o beth yw diogelwch y defaid.
- Bydd digwyddiadau’r sied wyna yn cael eu ffrydio’n fyw ar wefan yr Amgueddfa fel rhan o broject #sgrinwyna. Wrth reswm, bydd unrhyw un sy’n mynychu yn ymddangos (er mai’r defaid yw sêr y sioe). Wrth archebu lle rydym yn cymryd eich bod yn rhoi caniatâd ymlaen llaw i gael eich ffilmio – bydd yn rhaid i chi lofnodi ffurflen ganiatâd ffilmio a ffotograffiaeth ar y diwrnod.
Iaith: Cynhelir y cwrs yn Saesneg, ond gellir darparu cyfieithu ar y pryd i’r Gymraeg. Prynwch docyn ar gyfer eich iaith ddewisol, gan wneud yn siŵr fod gennych docyn i bob person. Archebwch eich tocynnau o leiaf wythnos cyn y digwyddiad.
Hygyrchedd: Gallai'r cwrs hwn fod yn anaddas i bobl â phroblemau symudedd oherwydd yr amodau yn y sied wyna. Cysylltwch cyn archebu i drafod unrhyw bryderon drwy e-bostio digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk
Gostyngiadau i bobl ddigyflog, dros 60 oed, mewn addysg lawn amser a gyda cherdyn NUS, neu anabl.


