Tomen Coity
Cafodd glo ei gloddio yn Big Pit am dros 100 mlynedd. Wrth i’r glo gael ei gloddio, cai tunelli o wastraff ei godi i’r wyneb a crëwyd tomenni fel hon. Mewn ardaloedd glofaol, talodd yr amgylchedd bris uchel am bweru’r genedl.
Trysorau o’r Ddaear.
Peidiwyd a defnyddio Tomen Coity ar ddechrau’r 20fed ganrif, ac ers hynny mae natur wedi graddol adennill y tir. Mae’r domen wastraff lo hon bellach yn ardal sy’n gyfoeth o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid, rhai sy’n brin ac angen eu gwarchod. Mae’r domen yn fôr o fioamrywiaeth.
Mae dros 100 o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion wedi cael eu gweld yma!
Cadw ein Gorffennol
Yn dilyn trychineb Aberfan ym 1966, cliriwyd nifer o domenni glo. Mae’r tomenni glo sefydlog sy’n dal gyda ni heddiw yn cael eu cydnabod fel rhan annatod o hanes diwydiannol Cymru. Mae balchder yn ein treftadaeth ddiwydiannol ynghyd â phryderon ecolegol cynyddol yn gymorth i warchod safleoedd tebyg i genedlaethau’r dyfodol.
Dilynwch y llwybr i ddysgu mwy am y planhigion ac anifeiliaid sy’n byw yma heddiw.