Digwyddiad: Swper GRAFT - Wythnos Ffoaduriaid
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal ein noson Swper gyntaf yn 2024 i ddathlu rhai o’n partneriaid anhygoel!
Ymunwch â ni am noson hafaidd arbennig yn ein Hamgueddfa hardd.
...Mwynhewch wledd dymhorol flasus wedi’i pharatoi gan ein partneriaid coginiol cymunedol – Unified Flavours, wedi’u mentora gan The Shared Plate , ac yn defnyddio cynnyrch wedi’i dyfu yn un o nifer o wlâu yr ardd.
...Dathlwch lansiad y llyfr Community Flavours.
...Mwynhewch sioe ffasiwn fawreddog a rhowch gynigion ar eitemau ocsiwn cyffrous i helpu i godi arian ar gyfer The Women's Group.
Peidiwch â cholli’r cyfle i fod yn rhan o’r digwyddiad arbennig hwn!
Bwydlen a threfn y noson i ddod yn fuan...
(Bydd y digwyddiad hwn yn symud dan do yn yr Amgueddfa mewn tywydd gwael)
Tocynnau £15 y pen