Digwyddiad:Swper Gardd GRAFT

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ymgasglwch gyda ni yng ngwres y tân, am brofiad swper unigryw o dan y sêr. 

Yn swatio ymhlith gwelyau toreithiog yr ardd, byddwn yn gwledda ar blatiau rhannu wrth i ni ddathlu dyfodiad yr haf ac ysbryd cymuned. 

Noson yn llawn bwyd seiliedig ar blanhigion tymhorol blasus, cerddoriaeth fyw hudolus, a chelfyddyd fyw gyfareddol 

Bydd y cwrs olaf yn cael ei weini ger y tân, i godi’n calonnau ac i sbarduno sgyrsiau newydd. (Bydd cyflenwad da o falws melys hefyd.) 

Rydym wrth ein bodd bod y fwydlen ar gyfer y noson swper hon wedi’i chreu gan Queer Flavours a’i chyflwyno gan ein ffrindiau yn The Shared Plate. 

....Tywydd gwlyb? Dim problem! Bydd y digwyddiad yn symud dan do i golonâd yr amgueddfa (lle mae ei naws ddiwydiannol yn tystio i’r ffaith ei fod unwaith yn seidin rheilffordd) 

Tocynnau  - Mae prisiau’r tocynnau ar gyfer y swper hwn yn amrywio. Dewiswch y pris sydd fwyaf addas ar gyfer eich amgylchiadau.

£26 – Safonol 

£18 - Hygyrch 

BWYDLEN

  • Bara gyda onnen, danadl a menyn garlleg gwyllt
  • Madarch wedi'u coginio ar dân
  • Salad tatws perlysiau
  • Bresych wedi'i stwffio gyda rhiwbob a ffrwythau cerrig
  • Salad pys gyda dresin Prosecco
  • Afalau wedi’u pobi mewn clai gyda surop blodau, hufen a Granola

Gardd gymunedol sy’n werddon yng nghanol y ddinas yw GRAFT .  

Queer Flavours - Mae Leo yn gogydd cwiar sydd wedi cychwyn cwmni arlwyo yn ffocysu ar ddigwyddiadau llawen, cynhwysol a chreadigol 

Mae The Shared Plate yn gwmni arlwyo moesegol gyda bwyd a phobl yn gallon i’r cwbl. 

Gan ddefnyddio cynnyrch tymhorol a chynaliadwy, (a llawer o lysiau a dyfir eu hunain), mae eu helw yn ariannu eu prosiectau cymunedol. 

Mae'r rhaglenni Share Plate yn ceisio meithrin cysylltiad mewn pobl a chymunedau trwy goginio a thyfu. 

Gwybodaeth

23 Mai 2025, 6.30pm - 9.30pm
Pris Tocynnau - £26 – Safonol, £18 - Hygyrch
Addasrwydd Oedolion
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
23 May 2025 18:30 Gweld Tocynnau

Ymweld

Oriau Agor

Ar Agor yn ddyddiol 10am-5pm

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

Mae mynediad am ddim, ond mae’n bosibl y codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau.

Parcio

Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.

Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Mynediad

Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Bwyta, Yfed, siopa

  • Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau