Pecynnau synhwyraidd ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol
Mae gennym ddetholiad o adnoddau synhwyraidd i gefnogi dysgwyr yn ystod ymweliad â'n hamgueddfeydd.
Mae'r adnoddau'n cynnwys clustffonau canslo sain, teganau fidget ac offer synhwyraidd eraill.
Gofynnwch am becyn pan fyddwch yn archebu. Mae'n ofynnol i bob ysgol a grŵp drefnu eu hymweliadau ymlaen llaw. Sylwch fod pecynnau yn gyfyngedig ac yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Mae sut i gasglu'r pecynnau yn amrywio ym mhob amgueddfa - gweler y manylion isod. Cofiwch ddychwelyd y pecyn ar ddiwedd eich ymweliad.
Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar yr adnoddau, fel y gallwn barhau i ddatblygu hygyrchedd yr amgueddfa ar gyfer grwpiau dysgu.
Mae gan bob amgueddfa Stori Weledol i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad. Gwelwch y tudalennau Digwyddiadau i gael manylion am oriau tawel a gynhelir mewn rhai amgueddfeydd.
Amgueddfa Genedlaethol Y Glannau
Gallwch godi pecyn synhwyraidd o ddesg y dderbynfa yn Amgueddfa y Glannau. Mae hefyd yn cynnwys map synhwyraidd i'ch helpu i nodi mannau sy'n gyfeillgar i'r synhwyrau yn yr amgueddfa. >
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Mae pecynnau ar gael wrth ddesg Canolfan Ddysgu Weston os ydych yn cymryd rhan mewn sesiwn neu os ydych yn ymweld yn annibynnol. >
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae pecynnau ar gael yn ein hystafelloedd dysgu os ydych yn cymryd rhan mewn sesiwn. >
Amgueddfa Lechi Cymru
Mae’r pecynnau ar gael yn ein ystafell addysg os ydych yn cymeryd rhan mewn sesiwn, neu mae modd casglu pecyn o’r ddesg groeso yn y siop os ar ymweliad cyffredinol. >
Amgueddfa Wlân Cymru
Mae pecynnau ar gael yn ein hystafell ddysgu os ydych yn cymryd rhan mewn sesiwn, neu gellir eu casglu o’r ddesg groeso os ydych yn ymweld yn annibynnol. >
Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Mae pecynnau ar gael yn ein hystafelloedd dysgu os ydych yn cymryd rhan mewn sesiwn. >
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Mae pecynnau ar gael yn ein hystafelloedd dysgu os ydych yn cymryd rhan mewn sesiwn. >