Bwlch 3: Deinosoriaid ac Difodiannau torfol
Tua 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl, bu farw dros hanner y rhywogaethau ar wyneb y Ddaear. Y difodiant torfol hwn hefyd a achosodd farwolaeth nifer o blanhigion ac infertebratau, gan gynnwys yr deinosoriaid.
Efallai mai meteoryn o oddeutu'r un maint â Chaerdydd a achosodd y difodiant torfol hwn. Mae yna grater ardrawiad enfawr, sydd tua 65 miliwn o flynyddoedd oed, ar Benrhyn Yucatán, México. Mae'r crater 180 km ar draws.
Byddai angen grym ffrwydrol un biliwn o fomiau Hiroshima i greu crater o'r maint hwn! Byddai cymylau enfawr o lwch yn cael eu hyrddio i'r entrychion, gan rwystro pelydrau'r Haul rhag cyrraedd y Ddaear. Byddai hyn yn effeithio ar dyfiant planhigion ac ar yr anifeiliaid sy'n dibynnu arnynt.
Dyw daearegwyr ddim yn siŵr p'un ai a achosodd yr ardrawiad hwn y difodiant torfol neu beidio. Er hynny, gwyddom i sicrwydd fod meteoryn anferthol wedi taro'r Ddaear 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl a byddant yn parhau i daro'r Ddaear yn y dyfodol.