Bwlch 3: Deinosoriaid ac Difodiannau torfol

Tua 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl, bu farw dros hanner y rhywogaethau ar wyneb y Ddaear. Y difodiant torfol hwn hefyd a achosodd farwolaeth nifer o blanhigion ac infertebratau, gan gynnwys yr deinosoriaid.

Efallai mai meteoryn o oddeutu'r un maint â Chaerdydd a achosodd y difodiant torfol hwn. Mae yna grater ardrawiad enfawr, sydd tua 65 miliwn o flynyddoedd oed, ar Benrhyn Yucatán, México. Mae'r crater 180 km ar draws.

Byddai angen grym ffrwydrol un biliwn o fomiau Hiroshima i greu crater o'r maint hwn! Byddai cymylau enfawr o lwch yn cael eu hyrddio i'r entrychion, gan rwystro pelydrau'r Haul rhag cyrraedd y Ddaear. Byddai hyn yn effeithio ar dyfiant planhigion ac ar yr anifeiliaid sy'n dibynnu arnynt.

Dyw daearegwyr ddim yn siŵr p'un ai a achosodd yr ardrawiad hwn y difodiant torfol neu beidio. Er hynny, gwyddom i sicrwydd fod meteoryn anferthol wedi taro'r Ddaear 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl a byddant yn parhau i daro'r Ddaear yn y dyfodol.

Beth sydd yn Bwlch 3?

Tectit indocinit

1. Tectit indocinit

Weithiau mae trawiadau gwibfeini'n toddi darnau mawr o gramen y Ddaear ac yn gwasgaru defnynnau o wydr craig, a elwir yn dectitau.

Gwibfaen Crondrit

2. Gwibfaen Crondrit

Gwneir Crondritau o sfferau bychain (crondrwlau) a unodd at ei gilydd yn gynnar yn oes cysawd yr haul. Ffurfioff y ddaear o ddeunydd fel hyn.

Gwibfaen haearn nicel

3. Gwibfaen haearn nicel

Mae'r gwibfaen hwn gwympo yn Rwsia ar 12 Chwefror, 1947. Craidd asteroid yw hwn, sydd â chyfansoddiad tebyg i graidd y Ddaear.

Crafanc Tyranosor

4. Crafanc Tyranosor

Roedd y Tyranosor grymus ymysg y deinosoriaid olaf i fodoli cyn y diflaniad mawr 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Crafanc Felosiraptor

5. Crafanc Felosiraptor

Cigysydd pluog bach â chynffon hir oedd y Felosiraptor. Rhan o'i droed ôl yw'r grafanc siâp cryman hwn. Byddai'n ei ddefnyddio i ladd ei ysglyfaeth.

Dant Tyranosor

6. Dant Tyranosor

Roedd y Tyranosor yn ysglyfaethwr ac yn sborionwr. Gallai gnoi gyda grym o 200,000 o niwtonau — tua'r un grym gwasgu â dwsin o geir wedi pentyrru un ar ben y llall!

Dant Igwanadon

7. Dant Igwanadon

Llysysydd mawr swmpus oedd yr Igwanadon. Fe'i darganfuwyd ym 1825 a chafodd ei enw am fod ganddo ddannedd tebyg i rai igwana.

Ffosil Amonit

8. Ffosil Amonit

Grŵp o anifeiliaid morol yw Amonitau, a ddiflannodd 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Perthnasau agosaf yr Amonit heddiw yw'r octopws, ystifflog a'r môr-gyllell.

Fertebra Pleiosor

9. Fertebra Pleiosor

Ymlusgiaid morol cigysol oedd y Pleiosoriaid. Roeddent yn ffynnu hyd at ddiwedd y Cyfnod Cretasaidd, cyn diflannu'n llwyr. Er eu bod yn fyw'r un cyfnod a'r deinosoriaid, nid deinosoriaid oeddynt mewn gwirionedd.